Cymdeithas dai yn galw am sicrwydd ariannol hirdymor

Disgrifiad o'r llun, Gwaith adeiladu ar Stad Cae'r Glyn yng Nghaernarfon - stad o 17 o dai fydd yn eco-gyfeillgar ac yn rhad i'w rhedeg
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i roi ymrwymiad ariannol hir dymor i gymdeithasau tai Cymru os am wir fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 prinder cenedlaethol.

Yn 么l prif weithredwr cymdeithas dai Adra yn y gogledd, dim ond blwyddyn o sicrwydd ariannol sydd i鈥檞 grant tai cymdeithasol.

Yn 么l Iwan Trefor, mae鈥檙 diffyg ymrwymiad yn golygu nad oes modd buddsoddi mewn cynlluniau mawr hir dymor, a hynny鈥檔 dwysau鈥檙 prinder.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol wedi derbyn 鈥溌12.5m i atal digartrefedd eleni鈥 a bod y cyd-destun yr heriol.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Iwan Trefor mae鈥檙 diffyg ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu nad oes modd buddsoddi mewn cynlluniau mawr hir dymor

Mae Adra wrthi鈥檔 gorffen stad newydd o 17 o dai eco-gyfeillgar at ddibenion rhent cymdeithasol yng nghanol Caernarfon.

Mae鈥檙 cynllun yn gobeithio cadw biliau tenantiaid yn isel gyda phaneli solar a phympiau gwres wedi eu gosod ym mhob un cartref.

Disgrifiad o'r llun, Pwmp yn un o'r tai newydd, fydd yn cadw gwres i mewn a biliau yn isel

Ond un cynllun yw hwn, a鈥檙 galw yn genedlaethol yn enfawr.

Cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys y broses gynllunio, sy鈥檔 dal cymdeithasau tai yn 么l medd Mr Trefor, ond mae hefyd am weld sicrwydd ariannol.

鈥淏e 鈥榙a ni angen ydi鈥檙 ymrwymiad tymor hir.

鈥淵n enwedig o ran cyllid... fyddai鈥檔 galluogi i ni gynllunio ac i roi cynlluniau ar waith.

鈥淎r hyn o bryd mae鈥檙 ymrwymiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig ar gyfer y grant tai cymdeithasol, a phe bai'r ymrwymiad am bum mlynedd neu 10 mlynedd, mi fyddai鈥檔 rhoi sicrwydd a hyder i ni gynllunio nifer mwy o gynlluniau ar draws gogledd Cymru fel hyn."

Tai rhent yn brin

Disgrifiad o'r llun, Mae Dafydd Roberts a'i bartner yn cael siom ar 么l siom wrth chwilio am gartref rhent

Mae鈥檙 prinder tai rhent i鈥檞 deimlo ar draws Cymru ac mae Dafydd Roberts, 21, a鈥檌 bartner Nick Martin yn teimlo hynny wrth geisio canfod cartref newydd.

鈥淒oes dim digon o dai i fyw ynddyn nhw a rhentu preifat wedi mynd yn ddrud hefyd," meddai Dafydd.

鈥淭i鈥檔 s么n am 拢800 i 拢900 o leiaf ar rent bob mis a ma' hynny jest rhent!

鈥淥 ran tai cymdeithasol, mae鈥檙 list mor fawr, 'da chi鈥檔 aros am flynyddoedd."

Yn 么l Dafydd, mae鈥檙 broses a鈥檙 siom o beidio 芒 sicrhau t欧 hefyd yn cael effaith emosiynol.

Mwy nag erioed mewn llety dros dro

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn rhoi darlun clir o faint y broblem hefyd, a nifer y bobl sy鈥檔 byw mewn llety dros dro gan eu bod wedi eu cofrestru鈥檔 ddigartref, ar ei uchaf erioed.

Ym mis Medi 2020 roedd 4,048 o bobl drwy Gymru yn byw mewn llety dros dro - sy鈥檔 gyfuniad o Airbnbs, gwestai, hosteli a stoc breifat.

Ym mis Medi 2023, mae鈥檙 ffigwr yna wedi cynyddu i 11,228, a 3,409 o'r rheiny'n blant.

Disgrifiad o'r llun, Y gwaith ar stad newydd Cae鈥檙 Glyn gan gymdeithas dai Adra

Yng Ngwynedd fe wnaeth y cyngor dderbyn 123 o ffurflenni cais am dai ym mis Hydref 2023 yn unig.

Roedd 1,000 yn fwy o ebyst i'r cyngor hefyd yn gwneud ymholiadau - cyfanswm o 3,000 i gyd.

Dywedodd llefarydd fod y sefyllfa "costau byw, cynnydd cyfraddau llog a phrinder stoc" yn dwysau'r "argyfwng".

'42,500 wedi derbyn cefnogaeth'

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod dros 42,500 o bobl wedi derbyn cefnogaeth ers Mawrth 2020 drwy lety dros dro.

鈥淢ae鈥檔 bwysig cofio niferoedd heddiw mewn cyd-destun yr her enfawr yr ydym yn ei wynebu," meddai.

鈥淓in ffocws o hyd yw atal hyn a cheisio sicrhau nad yw pobl yn gorfod troi at lety dros dro."