Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Leighton James: Cyn-asgellwr Cymru ac Abertawe wedi marw
Mae Leighton James, cyn asgellwr Cymru a chwaraeodd dros 600 o gemau yng Nghynghrair B锚l-droed Lloegr, wedi marw yn 71 oed.
Cafodd James 54 cap dros Gymru a chwaraeodd 399 o gemau i Burnley dros dri cyfnod a threuliodd ddwy flynedd yn Derby County.
Fe wnaeth hefyd gynrychioli Abertawe, Sunderland, Bury a Chasnewydd mewn gyrfa chwarae 19 mlynedd cyn troi at reoli gyda sawl clwb.
Dywedodd Burnley ac Abertawe eu bod "wedi tristau" gyda marwolaeth James.
Dywedodd Abertawe fod James "yn cael ei ystyried yn eang fel un o chwaraewyr gorau'r Elyrch".
Sgoriodd 10 g么l i Gymru, gan wneud ei ymddangosiad olaf yn 1983.
Ar 么l ei yrfa chwarae aeth ymlaen i reoli nifer o glybiau tu allan i'r gynghrair yng Nghymru a Lloegr, y mwyaf amlwg oedd Accrington Stanley yn 1997-1998.
Yng Nghymru fe wnaeth reoli Llanelli, Aberaman a Hwlffordd.