大象传媒

Gyrfa ddarlledu ddisglair Huw Edwards yn deilchion

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Edwards, a ymunodd 芒'r 大象传媒 ym 1984, yn un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus y DU

  • Cyhoeddwyd

Roedd Huw Edwards yn un o ffigyrau mwyaf cyfarwydd ac uchel ei barch ar deledu Prydain, ond mae hynny wedi newid yn llwyr wedi iddo bledio鈥檔 euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.

Daeth cyfaddefiad cyn-gyflwynydd newyddion y 大象传媒 yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher dri mis ar 么l iddo ymddiswyddo o'r gorfforaeth ar "gyngor meddygol".

Nid oedd wedi ymddangos ar y teledu ers mis Gorffennaf y llynedd, pan gafodd ei enwi fel y person ynghanol honiadau oedd hefyd yn ymwneud 芒 lluniau anweddus.

Mae ei ble euog yn nodi diwedd gyrfa ym myd darlledu sydd wedi ymestyn dros 40 mlynedd a mwy.

Hyd at y llynedd, Edwards oedd dewis cyntaf y 大象传媒 i arwain darllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol mawr, gan gynnwys etholiad cyffredinol 2019 ac angladd y Frenhines Elizabeth II.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymddangosodd Edwards yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher

Cafodd Edwards ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg o Brifysgol Cymru, Caerdydd.

Ond dechreuodd ddilyn gyrfa yn y cyfryngau, ac fe gafodd ei swydd gyntaf ym myd darlledu yn yr orsaf radio Swansea Sound, gan ddarllen y newyddion yn Gymraeg a Saesneg.

Ymunodd 芒'r 大象传媒 fel newyddiadurwr dan hyfforddiant ym 1984, ac yn y pendraw cafodd swydd fel gohebydd gwleidyddol i 大象传媒 Cymru.

Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn ohebydd seneddol 大象传媒 Cymru.

Erbyn dechrau'r 1990au, ef oedd prif ohebydd gwleidyddol y 大象传媒 yn San Steffan.

Daeth yn wyneb cyfarwydd ar sianel 大象传媒 News - 大象传媒 News 24 fel oedd hi ar y pryd - ar 么l iddi gael ei lansio ym 1997.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Edwards yn un o brif gylwynwyr Six O'Clock News ym 1999

Tua'r un pryd, roedd Edwards yn gweithio fel cyflwynydd achlysurol ar Six O'Clock News ar 大象传媒 One - un o'r bwletinau newyddion teledu mwyaf poblogaidd yn y DU - a daeth yn un o brif gyflwynwyr y rhaglen ym 1999.

Pedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ddyrchafiad i'r Ten O'Clock News, ac roedd yn cyflwyno a sylwebu ar ddigwyddiadau cenedlaethol mawr i'r 大象传媒 yn aml.

Roedd y digwyddiadau hynny'n cynnwys priodas Dug a Duges Caergrawnt (fel roedden nhw'n cael eu hadnabod ar y pryd) yn 2011, angladd Dug Caeredin yn 2021, Jiwbil卯 Ddiemwnt a Phlatinwm y Frenhines yn 2012 a 2022, a choroni'r Brenin Charles yn 2023.

Ond efallai mai ym mis Medi 2022 y daeth y foment fwyaf arwyddocaol yng ngyrfa gyflwyno Edwards, pan gyhoeddodd farwolaeth y Frenhines Elizabeth II i鈥檙 genedl.

Cyflwyno sawl rhaglen Gymraeg

Fe wnaeth Edwards gyflwyno sawl rhaglen yn y Gymraeg hefyd, gan gynnwys Dechrau Canu, Dechrau Canmol a Bore Sul.

Roedd hefyd yn gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen yn ymwneud 芒 hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glynd诺r a Chymru'r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y 19eg ganrif ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Roedd yn cefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar 么l ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi.

Yn 2021 fe wnaeth Edwards raglen ddogfen Gymraeg am ei yrfa, lle datgelodd ei fod wedi dioddef pyliau o iselder.

Cafodd hefyd ei urddo i'r Orsedd yn Nhregaron yn 2022.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Edwards ei enwi fel cyflwynydd y 大象传媒 ynghanol yr honiadau gan ei wraig Vicky Flind yr haf diwethaf

Yn ogystal 芒 digwyddiadau brenhinol mawr, roedd Edwards wedi dod yn wyneb darllediadau etholiad cyffredinol y 大象传媒, gan gamu i esgidiau David Dimbleby.

Roedd Edwards ymysg y rheiny oedd yn ennill y cyflog mwyaf yn y 大象传媒.

Yn 2017 - y flwyddyn gyntaf i鈥檙 大象传媒 gael ei orfodi gan y Senedd i gyhoeddi cyflogau prif gyflwynwyr - datgelwyd bod Edwards wedi ennill 拢550,000.

Wedi penawdau negyddol am yr arian a wariwyd gan y 大象传媒 - a鈥檙 gwahaniaeth rhwng rhai o鈥檌 s锚r gwrywaidd a benywaidd - fe gymrodd Edwards doriad cyflog, ac yn 2023 roedd yn ennill 拢435,000.

Ond dangosodd yr adroddiad blynyddol diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, fod ei gyflog wedi codi eto 拢40,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er nad oedd ar y sgrin am y mwyafrif ohono.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Edwards wedi cyflwyno bwletin News at Ten am 20 mlynedd

Daeth ei yrfa ddisglair yn y 大象传媒 i ben ar 么l i鈥檙 Sun gyhoeddi honiadau yn haf 2023 fod cyflwynydd dienw i鈥檙 大象传媒 wedi talu symiau mawr o arian am luniau anweddus o unigolyn.

Bu dyddiau o ddyfalu ynghylch pwy allai鈥檙 cyflwynydd fod - fe wnaeth y Sun, ac yn ddiweddarach 大象传媒 News, ryddhau rhagor o honiadau, gan gadw鈥檙 stori yn y penawdau.

Ar 13 Gorffennaf 2023, cadarnhaodd gwraig Huw Edwards, Vicky Flind, mai ef oedd y cyflwynydd dan sylw, gan ddweud ei bod yn gwneud hynny 鈥測n bennaf oherwydd pryder am ei les meddyliol鈥 ac i amddiffyn eu pum plentyn.

鈥淢ae Huw yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol,鈥 meddai. 鈥淢ae digwyddiadau鈥檙 dyddiau diwethaf wedi gwaethygu pethau鈥檔 fawr, mae wedi dioddef episod difrifol arall ac mae bellach yn derbyn gofal ysbyty fel claf mewnol lle bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy.

鈥淯nwaith mae'n ddigon da i wneud hynny, mae鈥檔 bwriadu ymateb i鈥檙 straeon sydd wedi鈥檜 cyhoeddi.鈥

Ni wnaeth y datganiad hwnnw erioed.

Enw da yn deilchion

Cafodd Edwards ei arestio ym mis Tachwedd ar gyhuddiadau gwahanol i'r honiadau a wnaed yn haf 2023.

Clywodd y llys ddydd Mercher fod yr heddlu wedi darganfod bod dyn arall wedi anfon 377 o ddelweddau rhywiol at Edwards ar WhatsApp, gyda 41 ohonyn nhw鈥檔 ddelweddau anweddus o blant.

Mae wedi pledio'n euog, ond nid yw wedi cael ei ddedfrydu eto.

Dywedodd ei fargyfreithiwr ei fod yn flaenorol "o gymeriad eithriadol" a bod ganddo broblemau iechyd "meddyliol a chorfforol".

Ond mae ei ble euog yn golygu bod ei yrfa ddisglair, a'i enw da, yn deilchion.