Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dwi erioed wedi teimlo mor s芒l' - annog pobl i gael brechiad ffliw
"Dwi erioed wedi teimlo mor s芒l yn fy mywyd - fyswn i ddim yn dymuno'r fath beth ar unrhyw un."
Fe dreuliodd Joseph Sullivan, 26 oed o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, 24 awr yn yr ysbyty gyda ffliw difrifol y llynedd, ond mae'n credu y byddai pethau wedi bod llawer gwaeth pe na bai wedi cael ei frechu.
Mae Mr Sullivan, sydd 芒 diabetes math 1 a chyflwr awto-imiwn sy'n effeithio ar yr iau, yn galw ar bobl i fanteisio ar y cyfle i gael eu brechu rhag y ffliw y gaeaf hwn.
Er i bron i dri chwarter y bobl dros 65 oed gael eu brechu, mae ffigyrau'n dangos mai dim ond 39% o bobl iau sy'n cael eu hystyried yn fregus wnaeth fanteisio ar y cynnig.
Mae disgwyl y bydd mwy o bobl yn mynd yn s芒l oherwydd y ffliw y gaeaf hwn, gyda hyd at 1,000 o gleifion yn gorfod derbyn triniaeth ysbyty o'i herwydd bob wythnos.
Mae hi'n saith mlynedd ers i achosion o'r ffliw yn y gymuned gyrraedd lefelau dwysedd uchel, gyda'r pandemig Covid-19 yn effeithio yn fawr ar faint yr oedd pobl yn cymdeithasu - ond dyw swyddogion iechyd ddim am fod yn hunanfodlon.
Y gaeaf diwethaf roedd 250 o gleifion ffliw yn cael eu trin yn yr ysbyty bob wythnos ym mis Chwefror pan roedd pethau ar eu gwaethaf.
Y sefyllfa fwyaf tebygol eleni yw y bydd tua 440 o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty pob wythnos oherwydd y ffliw.
Mae cyfraddau marwolaeth yn dangos fod pobl bron i deirgwaith yn fwy tebygol o farw o ffliw neu niwmonia dros y 12 mis diwethaf nac ydyn nhw oherwydd Covid.
Yn 么l Dr Chris Johnson, sy'n arwain ymgyrch frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), "mae'n drychineb" fod pobl yn marw neu'n mynd yn ddifrifol wael pan fyddai modd osgoi hynny drwy gael brechiad am ddim.
Yn ogystal 芒'r ffliw, mae'n bosib y bydd ysbytai yn wynebu pwysau ychwanegol o ganlyniad i gleifion Covid, tra bod lledaeniad feirws RSV hefyd yn bryder.
Wrth ystyried effeithiau'r tri feirws yma gyda'i gilydd, mae'n bosib y bydd hyd at 126 o gleifion yn mynd i'r ysbyty bob dydd.
"Mae'r afiechydon yma wir yn gallu peryglu bywyd mewn rhai achosion," meddai Dr Johnson.
"Ry'n ni'n gwybod eu bod nhw'n arwain at fod angen triniaeth ysbyty a'u bod yn gallu amharu ar fywydau pobl, ac mae modd osgoi hynny drwy gael brechiad."
Mae neges Dr Johnson yn arbennig o berthnasol i'r 467,000 o bobl yng Nghymru sy'n cael eu hystyried yn fregus.
Mae'r gr诺p yma yn cynnwys pobl sydd 芒 chyflyrau fel y fogfa (asthma), COPD, diabetes a chyflyrau sy'n effeithio ar yr iau neu'r ysgyfaint.
Mae Joseph Sullivan yn un o'r 99,000 o bobl sydd yn byw gyda diabetes yng Nghymru. Mae'r bobl hyn chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o'r ffliw.
Mae Joseph yn gorfod rheoli hynny ar y cyd 芒'r cyflwr awto-imiwn sy'n effeithio ar ei iau, ond Nadolig y llynedd bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty oherwydd y ffliw.
"Byddwn i'n cyfnewid cael poen bach yn fy mraich (o gael y brechlyn) am gael y ffliw unrhyw ddydd," meddai.
"Dyma'r fwyaf s芒l dwi erioed wedi bod, a dwi'n bendant yn fwy gwyliadwrus wrth i'r gaeaf agos谩u, fyddwn i'n gwneud unrhyw beth i osgoi cael y ffliw eto."
Fe aeth Joseph i'r adran frys rhai dyddiau ar 么l bod ym mhriodas ei frawd.
"Roedd lefel y siwgr yn fy ngwaed ym mhobman, a dyma'r gwaethaf dwi erioed wedi teimlo. Roedd o'n ofnadwy," meddai.
"Nes i ddechrau cael fy mrechu rhag y ffliw ar 么l cael y diagnosis diabetes, mae o'n rhywbeth dwi wastad wedi neud - a dwi mor falch, achos 'wn i ddim be' fyddai wedi digwydd os na fyswn i wedi gwneud hynny."
Pwy sy'n gymwys i gael y brechlyn?
Mae'r brechlyn ffliw a'r brechlyn Covid yn cael ei gynnig i bawb sydd 芒 chyflyrau iechyd sy'n golygu eu bod yn cael eu hystyried yn fregus, pobl dros 65 oed a phreswylwyr cartrefi gofal, merched beichiog, pobl gydag anableddau dysgu a phobl ddigartref.
Mae'r brechlyn ffliw hefyd yn cael ei gynnig i blant, gweithwyr iechyd rheng flaen a staff gofal cymdeithasol a gweithwyr mewn cartrefi gofal.
Mae'r brechlyn RSV ar gael i ferched beichiog a phobl yn eu 70au hwyr.