Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cais i ddenu ffeinal Cynghrair Pencampwyr y merched i Gaerdydd
Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi dweud y bydd yn gwneud cais swyddogol i gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched yng Nghaerdydd yn 2027.
Dywedodd y gymdeithas ddydd Mercher eu bod yn gobeithio gallu denu'r ffeinal i Stadiwm Principality ymhen tair blynedd.
Dim dyma fyddai'r tro cyntaf i rownd derfynol y gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghaerdydd - n么l yn 2017 cafodd y g锚m ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cafodd ffeinal cystadleuaeth y dynion - rhwng Real Madrid a Juventus - ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn honno hefyd, a hynny yn Stadiwm Principality.
Yn 么l CBDC, mae'r gemau hynny yn brawf o allu'r ddinas i gynnal digwyddiadau mawr.
"Mae rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched yn un o'r digwyddiadau mwyaf ym mh锚l-droed Ewropeaidd, a byddai denu'r g锚m i Gaerdydd yn 2027 yn gamp arbennig i Gymru all ysgogi rhagor o ddatblygiad o ran gem y merched yma," meddai'r gymdeithas.
Mae tri lleoliad arall hefyd wedi mynegi diddordeb mewn cynnal y g锚m - y Stadiwm Cenedlaethol yn Warsaw, Gwlad Pwyl, y Camp Nou yn Barcelona, Sbaen a Pharc St Jakob yn Basel, Y Swistir.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno cais ffurfiol erbyn Mawrth 2025, a bydd y cais llwyddiannus yn cael ei gadarnhau gan bwyllgor gweithredol UEFA ym mis Mai y flwyddyn nesaf.