Cyhuddo dynes o lofruddio dyn 40 oed yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 50 oed o Wrecsam wedi cael ei chyhuddo o lofruddio dyn 40 oed yn y dref.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn ardal Pentre Gwyn ar 23 Hydref y llynedd.
Fe gafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw yn y fan a鈥檙 lle.
Mae Joanna Wronska yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2023