Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwedd cyfnod i 'deulu' C么r Meibion Orffiws y Rhos
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Bydd C么r Meibion Orffiws y Rhos yn perfformio am y tro olaf y penwythnos hwn.
Yn canu ers 67 o flynyddoedd, roedd y c么r o Rosllannerchrugog ger Wrecsam yn cael ei ystyried ymysg y goreuon.
Ond wedi trafferth denu aelodau newydd fe benderfynwyd dod 芒 phethau i ben pan gyhoeddodd yr arweinydd ei fod yn ymddeol.
Eu cyngherddau yn Wrecsam nos Wener ac ym Mwcle nos Sul fydd y rhai olaf.
Bydd y cyngerdd nos Wener yn Eglwys San Silyn yn digwydd ar y cyd 芒 ch么r sy鈥檔 ymweld o鈥檙 Almaen.
I Gareth Williams sy鈥檔 aelod ers dros hanner canrif, bydd diwedd y c么r yn golled fawr.
鈥淢ae rhai pobl yn dweud fod o鈥檔 gymdeithas, mae鈥檔 fwy na chymdeithas, mae鈥檔 deulu," meddai.
鈥淓r ei bod hi鈥檔 drist, mae gen i gymaint o atgofion melys o鈥檙 teithiau efo鈥檙 c么r a鈥檙 ymarfer. Oedden ni鈥檔 cael lot o hwyl.鈥
Wedi ei sefydlu yn 1957 er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, fe deithiodd y c么r yn helaeth ar draws y byd gan berfformio yn China, Israel, UDA a llawer o Ewrop.
鈥溾楧en ni wedi bod yn genhadon dros Gymru ar draws y byd bron,鈥 meddai Mr Williams.
鈥淭eimlad bod ni鈥檔 mynd 芒 Chymru allan i鈥檙 byd.鈥
Bellach 芒 thros 30 o aelodau, roedd gan G么r Meibion Orffiws y Rhos dros 100 ar un cyfnod.
Ond maen nhw wedi ei chael hi鈥檔 anodd denu aelodau newydd yn y blynyddoedd diwethaf.
Wedi ymaelodi 芒鈥檙 c么r pan oedd yn 14 oed, fe ddaeth Eifion Wyn Jones yn arweinydd yn 1988.
'Dwi ddim am arwain i mewn i fy medd!'
Mae鈥檔 dweud bod y ffaith bod y c么r yn dod i ben ar ei ymddeoliad yn rhywbeth mae鈥檔 鈥渆difar yn fawr鈥.
鈥淢ae鈥檔 ddrwg gen i bod nhw wedi penderfynu hynny. Does gen i ddim dylanwad ar hynny. Dwi鈥檔 teimlo am hynny鈥檔 fwy na dim byd, bod nhw鈥檔 gorffen.鈥
鈥淩haid imi orffen rywbryd, Dwi ddim yn mynd i arwain i mewn i fy medd! Rhaid i mi orffen ryw amser a nes i benderfynu, dyma fo, rhaid imi wneud o r诺an.鈥
Mae denu aelodau newydd yn her sy鈥檔 wynebu sawl c么r meibion yng Nghymru.
鈥淢ae 鈥榥a nifer o gorau bychain lleol wedi darfod ac yn anffodus mae鈥檙 Orffiws hefyd wedi penderfynu ar 么l i mi ymddeol,鈥 meddai Mr Jones.
鈥淒wi鈥檔 gweld ychydig o gynnydd mewn corau efo aelodau mwy ifanc. Dynion a chorau cymysg. Mae 鈥榥a ddyfodol efo nhw.鈥
鈥淥nd dwi鈥檔 meddwl bod y corau hynny鈥檔 pigo pobl sydd wedi cael trin y llais, yn fwy 鈥榥a ch么r pentre鈥. C么r pentre鈥 oedd yr Orffiws a鈥檙 hen gorau i gyd.鈥