Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Liam Williams i ymddeol o focsio oherwydd cyfergydion
Mae Liam Williams, un o focswyr gorau Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o'r gamp ar 么l derbyn "sawl cyfergyd".
Mae Williams, 32, wedi ennill pencampwriaethau Prydain, Ewrop a'r Gymanwlad, ond mae鈥檔 dweud ei fod yn dirwyn ei yrfa i ben am ei fod yn poeni am dderbyn mwy o ergydion i'w ben a gwneud rhagor o niwed i'w ymennydd.
Dywed Williams iddo frwydro yn erbyn Chris Eubank Jr yn 2022 er ei fod yn gwybod ei fod yn dioddef effeithiau cyfergyd, a'i wedi mynd yn groes i gyngor meddygol am nad oedd "am siomi ei gefnogwyr".
Ychwanegodd iddo sylweddoli ar 么l ei frwydr olaf 鈥 colled yn y rownd gyntaf yn erbyn Hamzah Sheeraz ym mis Chwefror - nad oedd am "frwydro am arian yn unig" a "pheryglu ei ddyfodol gyda'i deulu".
Yn focsiwr amatur llwyddiannus, trodd Williams yn broffesiynol wedi i'w obeithion o gystadlu yng Ngemau Olympaidd 2012 ddod i ben pan gafodd ei daro gan gar wrth newid teiar.
Yn rhyfeddol, fe ddihangodd heb anaf parhaol, ac roedd yn benderfynol o barhau i focsio, gan droi鈥檔 broffesiynol tra鈥檔 hyfforddi yn yr un gampfa 芒 Nathan Cleverly - aeth ymlaen i ennill teitl byd.
Ar 么l treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa'n hyfforddi gyda Gary Lockett, ei ffrind a鈥檌 fentor oedd yr un wnaeth gadarnhau iddo fod angen iddo ymddeol ar 么l i Sheeraz ei daro i'r llawr ddwywaith yn yr ornest yn Llundain.
Dywedodd Lockett: "Ar 么l y frwydr yn erbyn Sheeraz, roedd Liam a fi yn y cylch ac fe ddywedodd wrtha i 'mae drosodd i fi dydy Gar? Alla i ddim cymryd ergydion i'r pen rhagor'."
鈥淏eth arall allwn i fod wedi鈥檌 ddweud? Doeddwn i ddim yn gallu dweud celwydd wrtho," meddai Lockett.
Mae Williams yn cyfaddef bod derbyn y ffaith bod angen iddo ymddeol wedi bod yn anodd.
"Rwy'n ymddiried yn y bobl o'm cwmpas a phan maen nhw'n dweud wrthoch chi ei fod drosodd, mae'n rhaid i chi wrando. Roedd yn anodd iawn clywed.
"Roeddwn i wedi cael rhai problemau gyda chyfergydion. Cefais dri neu bedwar mewn 18 mis.
"Dydw i ddim eisiau bocsio am arian yn unig a chael ergyd i'r pen na allwch fyth ddod yn 么l ohono.
"Mae gen i deulu hyfryd, partner hyfryd, os na alla i fwynhau fy mywyd gyda nhw oherwydd niwed i'm hymennydd, beth fyddai pwrpas hynny?"
Tri neu bedwar cyfergyd mewn 18 mis
Mae Williams yn dweud iddo ddioddef o sgil-effeithiau tri neu bedwar o gyfergydion o fewn cyfnod o 18 mis.
Bu Williams yn yr Unol Daleithiau yn herio Demetrius Andrade ar gyfer teitl pwysau canol WBO y Byd, gan golli trwy benderfyniad unfrydol mewn gornest lle mae Williams yn dweud iddo dderbyn cyfergyd gan benelin.
Mae'r Cymro yn dweud iddo dderbyn cyfergyd arall wedyn mewn sesiwn ymarfer cyn wynebu Chris Eubank Jr ddeg mis yn ddiweddarach.
"Mae'n debyg na ddylwn i ddweud hyn, ond dywedodd meddyg wrtha i beidio ymladd Eubank gan fy mod wedi cael cyfergyd eto," meddai Williams.
"Roeddwn i wedi cael y cyfergyd o benelin yn y frwydr yn erbyn Andrade, un arall wrth ymarfer, mae'n debyg fy mod i'n gwybod na ddylwn i focsio Eubank, ond roedd llawer o arian ar y bwrdd.
"Roedd y frwydr yng Nghaerdydd ac roeddwn i wedi gwerthu llawer o docynnau. Gwerthais gwerth 拢200,000 o docynnau o fy nh欧, roedd yn wallgof.鈥
"Doeddwn i ddim eisiau siomi pobl, felly wnes i ddim dweud unrhyw beth.鈥
Dywed Williams fod y bygythiad o ddifrod pellach i'w ymennydd a鈥檙 bygythiad o CTE yn golygu na fydd yn dychwelyd fel bocsiwr, er ei fod wedi cael ei demtio.
Mae CTE yn gyflwr ar yr ymennydd sy'n gysylltiedig 芒 derbyn sawl ergyd i'r pen a chyfergydion.
Dim ond mewn post mortem y gellir gwneud diagnosis o'r cyflwr, sy'n gwaethygu'n raddol dros amser ac sy'n arwain at ddementia.
"Dwi'n gwybod bod bocsio yn greulon," ychwanegodd Williams. "Oherwydd cyfergydion, dwi wedi gorfod ymddeol," meddai. "Dyma'r penderfyniad cywir.
Mae Williams yn dweud y byddai wedi hoffi ennill teitl byd ond ei fod yn fodlon ei fod 鈥渨edi profi yn fy ngyrfa fy mod yn gallu bocsio ar lefel fyd-eang, ond gallaf edrych yn 么l a bod yn falch o'r hyn rwyf wedi'i wneud."