Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Antur Americanaidd Steff Hughes
- Awdur, Cennydd Davies
- Swydd, Prif Sylwebydd Rygbi 大象传媒 Cymru
Bydd Nadolig eleni鈥檔 dipyn gwahanol i鈥檙 arfer i Steff Hughes a鈥檌 deulu. Tan yn gymharol ddiweddar roedd y chwaraewr rygbi'n meddwl mai dathlu ym Mhenylan yng Nghaerdydd gyda鈥檌 deulu fyddai鈥檙 drefn ynghyd 芒 pharatoi ar gyfer y g锚m ddarbi ddwyreiniol ar 糯yl San Steffan.
Bellach, mae鈥檙 cyfan wedi ei droi ar ei ben a gorwelion canolwr y Dreigiau wedi troi at yr Unol Daleithiau, a bydd Steff a鈥檌 deulu鈥檔 treulio'r Nadolig yn Efrog Newydd.
Ymhen rhyw fis bydd Steff, ei gymar Aneura, a鈥檜 mab blwydd oed Lefi a Boris y ci鈥檔 symud i Washington D.C ar 么l derbyn cynnig i chwarae dros Old Glory.
鈥淧an benderfynais i fynd amdani y peth cyntaf 'wedodd Anuera oedd bod rhaid ni ddathlu鈥檙 Dolig yn Efrog Newydd, a dathlu yn debyg i鈥檙 hyn chi鈥檔 weld yn y ffilmiau.
"Dyma鈥檙 tro cyntaf i fi gael Dolig bant ers blynyddoedd - bydd cael cyfle i gerdded rownd Central Park a Times Square yn dipyn gwahanol i g锚m ar Rodney Parade, ac mae鈥檔 rhaid cyfaddef bod ni gyd yn edrych ymlaen.鈥
'Mynd bant i ddysgu'
Mae鈥檙 g诺r diymhongar o Lanelli鈥檔 cyfaddef y bu鈥檔 rhaid pendroni dros y penderfyniad ond yn y pen draw roedd yn gyfle euraidd nad oedd modd ei wrthod.
鈥淔i wastad wedi bod yn awyddus i fynd bant i ddysgu rhywbeth newydd a gwahanol. Mae chwarae am 14 tymor yng Nghymru鈥檔 siapio dy feddylfryd rhywfaint, ond fe weithiodd hwn fel cyfle i chwarae rhywfaint a gwneud bach o hyfforddi.
"Ro鈥檔 i ar dipyn o groesffordd o ran fy ngyrfa, ac fel teulu ifanc roedd yr amseru鈥檔 berffaith ac yn gyfle rhy dda i golli ac mae wedi gweithio mas ar yr adeg cywir.鈥
Y dyfodol a sicrwydd teuluol oedd y brif ystyriaeth wrth wneud penderfyniad o鈥檙 fath, ac roedd mentro yn bosib wedi i鈥檞 gymar, Aneura, dderbyn cynnig swydd 芒 chwmni pensaern茂aeth. Mae mab y cwpl, Lefi, yn flwydd oed ac mae Steff yn teimlo bod digon o amser i ddysgu sgiliau yn America a dod 'n么l i Gymru i bellhau ei yrfa yn y dyfodol.
鈥淯n o鈥檙 prif bethe oedd yn atyniad oedd y cyfle i wneud mwy o hyfforddi - roedd hynny sicr yn apelio. Gobeithio galla鈥 i ddod 芒鈥檙 sgiliau hynny n么l i Gymru, ond rwy鈥檔 credu fod e鈥檔 bwysig mynd bant a dysgu rhywbeth gwahanol.
"Nes eich bod chi鈥檔 gadael a dysgu efallai chi鈥檔 edrych ar bethe yn fewnblyg 鈥 mi fydda i wrth gwrs yn gwneud camgymeriadau ond bydd hynny鈥檔 rhan o鈥檙 daith. Pwy a 诺yr ble fydd e鈥檔 mynd 芒 fi ond rhyw ddydd alla i ddod 芒鈥檙 sgiliau hynny n么l i Gymru.鈥
Yn chwaraewr cyson dros y Scarlets a鈥檙 Dreigiau, roedd yr elfen o berthyn i d卯m bob tro鈥檔 bwysicach na鈥檌 ddyhead personol. Cafodd brofiad o arwain y rhanbarthau hynny ynghyd 芒 th卯m dan 20 Cymru, heb anghofio ei ddawn naturiol yn y blwch sylwebu!
Er y daeth yn agos, yr un peth na ddaeth i鈥檞 feddiant oedd cap rhyngwladol, ond wrth iddo baratoi ar gyfer yr her nesa dyw hynny ddim yn ei boeni o gwbl.
鈥淒wi ddim yn difaru llawer, fydde cap rhyngwladol wedi bod yn gr锚t ond ma鈥檙 bois sydd wedi chwarae dros Gymru yn y blynyddoedd diwethaf yng nghanol cae wedi bod yn rhai corfforol a chydnerth. Sai鈥檔 foi enfawr ac o鈥檔 i鈥檔 ceisio bod yn chwaraewr mwy creadigol a cheisio helpu chwaraewyr eraill."
Falch o gapteinio'r Scarlets a'r Dreigiau
鈥淒wi ddim yn ddig o gwbl, dyna oedd arddull Cymru a dyna ni. Dwi鈥檔 falch iawn o鈥檙 hyn dwi wedi ei wneud, dwi 鈥榙i chwarae dros 100 g锚m i鈥檙 Scarlets ac wedi bod yn gapten arnyn nhw a鈥檙 Dreigiau.
"Da鈥檛h y cyfle yna (i ennill cap dros Gymru) fyth fel chwaraewr yn anffodus, ond dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd yn poeni fi, ac efallai gaf i鈥檙 cyfle fel hyfforddwr rhyw ddydd.鈥
Wrth i鈥檙 amser agos谩u at yr amser i ffarwelio mae Steff yn cydnabod fod 鈥榥a lot eto i鈥檞 drefnu, a rhan fwyaf o鈥檙 gwaith papur yn ymwneud 芒 Boris y ci fydd yn symud gyda鈥檙 teulu.
鈥淢ae gymaint o stwff 鈥榙a ni dal i drefnu, hyd yma mae e wedi bod yng nghefn y meddwl ond nawr mae鈥檔 dechrau dod yn realiti.
鈥淵r un peth sy鈥檔 fy mhoeni bach yw dylanwad yr acen, nid arna i ond ar y crwt - mae e鈥檔 flwydd oed ac felly鈥檔 si诺r o bigo cwpwl o bethe lan o ran yr acen. Ond ni鈥檔 siarad Cymraeg fel teulu a dwi鈥檔 si诺r fydd e鈥檔 iawn, er falle fydd e鈥檔 siarad Cymraeg ag acen Americanaidd!鈥