Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr 糯yl Gerdd Dant yn gwahardd vapes untro
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd arbennig 大象传媒 Radio Cymru
Ni fydd vapes untro yn cael eu caniat谩u yn yr 糯yl Gerdd Dant ym mis Tachwedd.
Dywedodd John Eifion, trefnydd G诺yl Aled yn Yr Wyddgrug, wrth raglen Dros Frecwast y bydd "dim vapio" yn yr 诺yl.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahardd vapes untro o 1 Ebrill. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio vapes tafladwy wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae ffigyrau yn awgrymu fod bron i bum miliwn yn cael eu聽taflu i'r sbwriel bob wythnos.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud wrth Dros Frecwast eu bod hwythau yn bwriadu cyflwyno cynnig i Fwrdd Rheoli a Chyngor yr Eisteddfod er mwyn gwahardd vapes un tro.
Pan ofynnwyd i'r Gymdeithas Gerdd Dant a fyddan nhw'n gwahardd vapes untro yng Ng诺yl Aled yn yr Wyddgrug ym mis Tachwedd, dywedodd y trefnydd: "Fydd dim vapio yn yr 诺yl."
"'Dan ni ddim yn gwybod be 'di sgil effeithiau vapio," meddai John Eifion.
"Ond 'sa well bod yn rhagweithiol yn fan hyn a gwneud penderfyniadau yn hytrach na disgwyl a gweld be' fydd y canlyniadau a phenderfynu wedyn.
"Felly, yn yr 诺yl, fydd 'na ddim vapio."
'Gwerthiant wedi dyblu ers agor y Maes'
Ar y maes, fe ddywedodd Angela Karadog o'r Blaid Werdd ei bod yn "erfyn ar yr Eisteddfod i wahardd rhein, yn enwedig single-use vapes".
"Dwi eisiau gweld newid yn lleol, ac mae hyn yn dechrau ar y Maes."
Mae nifer o siopau vapes ar y stryd fawr ym Mhontypridd.
Yn 么l Jarred Jones, sy'n gweithio i gwmni VPZ, "mae gwerthiant disposable vapes wedi dyblu ers cychwyn yr Eisteddfod".
"Ry'n ni'n gweld llawer o bobl sy'n prynu disposables a ma' gyda ni deals er mwyn ceisio symud pobl o disposables i reusables."
Mae ymdrechion i wahardd vapes un-tro yn cael croeso gan elusennau fel Adferiad.
Mae'r elusen yn ymgyrchu a darparu gwasanaethau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan iechyd meddwl, defnydd cyffuriau neu alcohol.
"Gwyddom y gall f锚ps un-tro arwain i gaethiwed," medd llefarydd.
"Ac rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd o bobl ifanc sy'n ceisio am gymorth i roi'r gorau i fepio.
"Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae dros 50% or atgyfeiriadau wed bod i geisio am gefnogaeth yn ymwneud 芒 fepio."