Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 20 oed o ardal Trowbridge ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Daw'n dilyn ymchwiliad i farwolaeth dyn 43 oed yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd, am tua 16:00 ddydd Mawrth, 12 Tachwedd.

Roedd y gwasanaethau brys wedi ymateb i adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Paul Raikes o'r T卯m Ymchwiliadau Troseddau:"Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

"Rydym yn parhau i ymchwilio i鈥檙 mater, ac yn apelio ar unrhyw dystion oedd yn ardaloedd Heol Trostre a Coleford Drive yn Llaneirwg ddydd Mawrth am tua 16:00, i gyflwyno gwybodaeth, hyd yn oed petai'n ymddangos yn ddi-nod."

"Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd 芒 ffilm ff么n symudol neu gamera cylch cyfyng i gysylltu 芒 ni os gwelwch yn dda."