Warren Gatland i ystyried ei ddyfodol fel prif hyfforddwr Cymru

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Warren Gatland yn dweud y bydd yn cytuno 芒 "beth bynnag yw'r penderfyniad gorau i rygbi Cymru"

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn dweud ei fod am ystyried ei ddyfodol ar 么l cyfarfod 芒 phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru (URC) yn ystafell newid Stadiwm Principality wedi'r golled yn erbyn Awstralia.

Dywedodd Gatland, 61, y bydd yn cytuno 芒 "beth bynnag yw'r penderfyniad gorau i rygbi Cymru" yn dilyn cwestiynau dros ei swydd.

Mae Cymru wedi colli 11 g锚m brawf o'r bron am y tro cyntaf erioed yn dilyn y golled o 20-52 yn erbyn Awstralia ddydd Sul.

Dywedodd Gatland iddo siarad 芒 chadeirydd URC Richard Collier-Keywood a'r cyfarwyddwr gweithredol rygbi Nigel Walker ar 么l y g锚m.

"Beth bynnag yw'r penderfyniad gorau i rygbi Cymru, dwi'n fwy na chyfforddus gyda hynny," meddai.

"Os ydy hynny amdana i'n gadael a dyna'r penderfyniad gorau, yna gwnewch y penderfyniad.

"Fe wnawn ni siarad am hynny a gwneud hynny gyda'n gilydd."

Nid yw Cymru wedi ennill g锚m brawf ers dros 13 mis ac mae'r t卯m wedi llithro i'r 11eg safle yn netholion y byd.

"Mae 'na gymaint o negyddiaeth o gwmpas y g锚m o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ar y cae ac oddi arno," meddai Gatland.

鈥淵r hyn dwi鈥檔 poeni amdano鈥檔 aruthrol yw rygbi Cymru a dyfodol y g锚m.鈥

Gofynnodd Gatland a fyddai newid nawr yn cael effaith ar ffawd rygbi Cymru.

"Os ydych chi'n mynd i fy newid i, pwy ydych chi'n mynd i ddod i mewn a sut maen nhw'n mynd i newid pethau?" gofynnodd.

鈥淓fallai y bydd gwneud newid yn helpu i liniaru rhywfaint o鈥檙 negyddiaeth oherwydd bydd yn newid pethau a bydd y ffocws ar rywbeth arall.

"Ond a fydd hynny'n gwella'r g锚m? Ydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r person iawn i wneud rhywbeth arall?

"Neu ydyn ni'n well ein byd yn rhoi ein pen i lawr, bwrw ymlaen a gobeithio - rhoi rhai pethau yn eu lle a all, gobeithio, wneud rhai gwelliannau ar lefel ranbarthol ac yn y system, a all fod o fudd i ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n heriol ar hyn o bryd, y mwyaf heriol mae wedi bod," cyfaddefodd Gatland

Roedd Gatland wedi derbyn llawer o feirniadaeth cyn g锚m Awstralia gan gyn-chwaraewyr.

Dywedodd ei fod wedi gofyn i'w hun a oedd angen y drafferth, ac y byddai'n siarad am ei sefyllfa gyda'i deulu, ond mynnodd fod ganddo'r uchelgais i barhau.

"Mae'n heriol ar hyn o bryd, y mwyaf heriol mae wedi bod," cyfaddefodd Gatland.

鈥淩wyf wedi bod yn 么l ers dwy flynedd, byddwn yn dweud bod un o鈥檙 blynyddoedd, gyda鈥檙 hyn a wnaethon ni gyflawni yng Nghwpan y Byd, yn weddol lwyddiannus,鈥 meddai.

鈥淩oedd yna lawer o bobl yn dweud na fydden ni鈥檔 dod allan o鈥檔 gr诺p yng Nghwpan y Byd achos doedden ni ddim yn ddigon da.

"Fe wnaethon ni ennill y gr诺p yn y diwedd a dylen ni fod wedi cyrraedd rownd gynderfynol. Roedden ni'n siomedig.

"Nid yw'r 12 mis diwethaf wedi bod yn llwyddiannus. Rydym wedi colli llawer o brofiad ac rydym yn gwybod bod cyfnod ailadeiladu i fynd drwyddo."

'Pwy chi'n mynd i ddod mewn?'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun dywedodd cyn-chwaraewr Cymru Emyr Lewis bod cyfuniad o ffactorau wedi arwain at drafferthion y t卯m.

Dywedodd fod ymddeoliad chwaraewyr profiadol dros y blynyddoedd diwethaf wedi chwarae rhan, a bod yr "oes aur" o chwaraewyr dros y degawd diwethaf wedi cuddio'r ffaith nad oes digon o chwaraewyr ifanc wedi datblygu'n s锚r rhyngwladol.

Ychwanegodd fod gormod o chwaraewyr ifanc Cymru yn mynd i academ茂au yn Lloegr, "a ma鈥 nhw tu allan i radar Cymru wedyn a ni鈥檔 colli nhw i鈥檙 Saeson".

Dywedodd nad oes pwrpas galw ar Gatland i adael heb i gynllun gwell fod mewn lle.

"Does dim pwrpas i ni jyst dweud, ma鈥 rhaid i Warren Gatland fynd," meddai.

"Y cwestiwn nesaf yw - pwy chi'n mynd i ddod mewn? Faint o effaith ma' fe'n mynd i gael?

"A beth sydd mynd i ddigwydd o fan鈥檔a 'mlaen, achos mae'n rhaid i ni edrych hwn pump, 10, 15 mlynedd i鈥檙 dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymru ar y rhediad gwaethaf yn eu hanes wedi'r golled yn erbyn Awstralia

Mae pencampwyr y byd De Affrica yn dod i Gaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Mynnodd Gatland y bydd carfan Cymru yn benderfynol o drawsnewid pethau鈥檙 penwythnos nesaf.

"Pan ydych chi'n ymwneud 芒 chwaraeon proffesiynol, dyna'r heriau sy'n eich diffinio chi fel unigolyn," meddai Gatland.

Rhoddodd Gatland neges angerddol i gefnogwyr Cymru yn dilyn y golled yn erbyn Awstralia.

"Rydyn ni'n brifo'n fawr heddiw," meddai.

鈥淢ae鈥檙 cefnogwyr wedi bod yn wych gyda鈥檙 gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i ni dros y blynyddoedd.

"Mae'n debyg ein bod yn eu siomi ychydig. Felly mae angen i ni fynd allan yr wythnos nesaf a chywiro hynny trwy roi perfformiad y gallant fod yn falch ohono."