大象传媒

Gwynedd: Mwy o bwerau i ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol

CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gorchmynion yn berthnasol mewn rhannau o ganol tref Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae gorchymyn cyfreithiol i roi mwy o bwerau i'r heddlu ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn tair tref yng Ngwynedd wedi derbyn s锚l bendith cynghorwyr.

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo鈥檙 mesurau yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chricieth yn dilyn cais gan swyddogion diogelwch cymunedol.

Clywodd aelodau cabinet ddydd Mawrth fod mesurau o'r fath wedi derbyn cefnogaeth y cyhoedd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan roi grymoedd ychwanegol i'r heddlu ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac yfed ar y stryd.

Bydd y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC), a fydd yn eu lle am dair blynedd, yn caniat谩u i swyddogion ddirwyo鈥檙 rhai sy鈥檔 methu 芒 chydymffurfio a gofynion y gorchmynion.

Mae鈥檙 rhain yn cynnwys parhau i yfed alcohol ar 么l gofyn iddyn nhw stopio, ymddwyn mewn modd sy鈥檔 debygol o achosi aflonyddwch, braw, niwsans a gofid, a methu 芒 gwasgaru pan ofynnir i wneud hynny gan swyddogion heddlu.

Y tair ardal sy'n destun y gorchmynion yw ardal y Maes ym Mhwllheli, rhannau o ganol tref Caernarfon a rhannau o dref Cricieth ger yr arfordir.

Dywedodd Daron Owens, Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, mai ond awdurdodau lleol sydd 芒鈥檙 hawl i gyflwyno GDMC.

鈥淕allant anfon neges clir na fydd rhai mathau o ymddygiad yn cael eu goddef a helpu i roi sicrwydd i drigolion ein bod yn ymateb i ymddygiad afresymol.

鈥溾橠a ni wedi derbyn tystiolaeth sylweddol yn dangos graddfa ac effaith ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn yr ardaloedd yma ac o鈥檙 dystiolaeth rydym yn fodlon fod yr ymddygiad yn cyrraedd y meini prawf i gyfiawnhau gorchymyn.

鈥淪ef ei fod yn cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn y cyffiniau yn barhaus ac afresymol ei natur.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Pwllheli yn un o dair tref fydd wedi ei heffeithio gan y mesurau

Ychwanegodd: 鈥淒im ond pan fydd pobl sy鈥檔 yfed alcohol yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu鈥檔 debygol o wneud hynny y bydd swyddogion yn gorfodi鈥檙 gwaharddiad hwn.

鈥淣id yw鈥檔 drosedd yfed alcohol mewn ardal GDMC, yn hytrach mae鈥檔 drosedd i beidio cydymffurfio 芒 chais i roi鈥檙 gorau i yfed neu ildio鈥檙 alcohol.鈥

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan fod 鈥済waith sylweddol鈥 yn digwydd yn yr ardaloedd dan sylw, ond mai 鈥渞han o鈥檙 datrysiad鈥 oedd gorchmynion o鈥檙 fath.

Ychwanegodd: 鈥淯n arf yn y bocs tools ydy hyn i edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut 鈥榙a ni鈥檔 delio hefo fo.鈥

Pynciau cysylltiedig