´óÏó´«Ã½

Eisteddfod: Heddlu arbenigol mewn dillad plaen 'i atal troseddu'

Lleoliadau Eisteddfod Genedlaethol 2024Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Lleoliadau Eisteddfod Genedlaethol 2024

  • Cyhoeddwyd

Bydd swyddogion heddlu arbenigol, gan gynnwys "llawer" mewn dillad plaen, yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn "atal, canfod ac amharu ar droseddu".

Ond ychwanegodd Heddlu De Cymru y byddan nhw'n gweithio i sicrhau "Eisteddfod ddiogel i gymuned Pontypridd".

Mae'r AS Ceidwadol Joel James wedi mynegi pryder bod "Pontypridd, ers peth amser, wedi profi lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud ag alcohol a chyffuriau".

Bydd Parc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd yn gartref i dros 1,000 o weithgareddau a digwyddiadau o 3-10 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

'Pryderon'

Ar ran Heddlu De Cymru, dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Jones wrth y ´óÏó´«Ã½, “ein rôl yn bennaf drwy’r Eisteddfod yw cefnogi’r trefnwyr i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad diogel i bawb".

"Mae ein tîm plismona bro lleol eisoes yn gweithio'n galed gyda phartneriaid allweddol a'r gymuned i fynd i'r afael â phryderon a godwyd ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb.

“Bydd swyddogion arbenigol – gan gynnwys llawer mewn dillad plaen – yn cael eu hanfon i’r Eisteddfod i atal, canfod ac amharu ar droseddu.

"Bydd y swyddogion sy'n bresennol yn yr Eisteddfod yn blaenoriaethu diogelwch y cyhoedd ond byddant yn gweithredu os oes unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddoldeb".

Disgrifiad o’r llun,

Fe brynwyd y tir mae Parc Ynysangharad bellach yn sefyll arno gan bobl Pontypridd yn 1919

Yn ystod cwestiynau i'r prif weinidog yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Joel James, AS y Ceidwadwyr dros Ganol De Cymru, ei fod yn "falch iawn" bod yr ŵyl "yn cael ei chynnal yn fy nhref enedigol, Pontypridd, eleni".

Meddai, "nid yn unig y bydd yn dod â thwristiaeth i’r dref, ond bydd yn darparu budd economaidd sylweddol ac yn arddangos yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.

"Fodd bynnag, mae Pontypridd wedi profi lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau ers peth amser.

"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd yn ymgynghori ar adnewyddu ei orchymyn diogelu mannau cyhoeddus sydd wedi bod ar waith ers 2018 ac sy'n cynnwys canol y dref, parc coffa Ynysangharad, a'r gorsafoedd rheilffordd a bysiau".

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Joel James: "mae Pontypridd wedi profi lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol"

Gofynnodd Joel James, "beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi heddlu lleol a’r cyngor i helpu i sicrhau bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gadw i’r lleiaf posibl?"

Atebodd y Prif Weinidog Vaughan Gething, "bydd sgyrsiau gyda’r heddlu, gyda’r awdurdod lleol a gyda’r llywodraeth ynglŷn â sut rydym yn rheoli’r Eisteddfod, mewn amgylchedd sydd yn gyffredinol yn ddigwyddiad cyfeillgar i deuluoedd".

Ychwanegodd, "rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r Eisteddfod, i weld pobl yn cael mynediad i’r Eisteddfod, rhai ohonynt am y tro cyntaf, a’i mwynhau mewn awyrgylch diogel a chyfeillgar".

Ffynhonnell y llun, CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont yma'n cysylltu Parc Ynysangharad gyda chanol tref Pontypridd

Parc Ynysangharad yn y dref fydd prif leoliad yr ŵyl eleni.

Tra bo'r prif faes wedi'i leoli yno, bydd rhai o adeiladau'r cyngor ac adeiladau preifat hefyd yn cael eu defnyddio.

Bydd y maes gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch, ac ar dir Ysgol Uwchradd Pontypridd fydd gŵyl Maes B.

Fe fydd y ganolfan groeso a'r swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod, "rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yr heddlu a’r holl asiantaethau cenedlaethol a lleol perthnasol ar bob elfen o’r Eisteddfod ers cychwyn y prosiect, a bydd y cydweithio yma’n parhau tan ddiwedd yr ŵyl".