Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Edrych ymlaen at Pride Cymru gyda H o Steps
Y penwythnos hwn fe fydd Pride Cymru yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd.
Mae鈥檙 dathliad LHDTC+ yng Nghymru yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed gyda鈥檙 digwyddiad wedi newid dyddiad a lleoliad, a鈥檙 orymdaith yn dilyn llwybr newydd.
Nos Fawrth, buodd Ian 鈥楬鈥 Watkins o鈥檙 gr诺p pop Steps yn siarad gyda Caryl am fis Pride a鈥檙 holl bethau y bydd o鈥檔 ei wneud i ddathlu.
鈥淒w i鈥檔 cyflwyno ar y llwyfan yn Pride Cymru dydd Sul. A鈥檙 main act yw fy ffrind Claire o Steps!鈥
Gofynnodd Caryl iddo a fydd o鈥檔 ymuno 芒 Claire ar y llwyfan am ddeuawd fach, ac atebodd yn gellweirus gyda 鈥淕awn ni weld...!鈥
Mae鈥檙 canwr sy鈥檔 wreiddiol o鈥檙 Rhondda yn weithgar iawn, nid yn unig yn genedlaethol a gyda Pride Cymru ond hefyd yn lleol 鈥 ef oedd un o sefydlwyr Pride y Bontfaen.
Y frwydr yn parhau
Sefydlodd H Pride y Bontfaen flwyddyn diwethaf ar 么l i regfeydd sarhaus am Pride gael eu peintio ar ddrysgau Neuadd y Dref. Eto, eleni mae mainc Pride yn y dref wedi cael ei difrodi.
Mewn neges ar ei gyfrif Instagram yn dangos y difrod, dywedodd:
鈥淵chydig ddiwrnodau鈥檔 么l roedd hon yn fainc brydferth, liwgar o liwiau鈥檙 enfys yn dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth a charedigrwydd. Dyma pam rydan ni鈥檔 cynnal Pride.
"Dw i鈥檔 teimlo鈥檔 siomedig iawn am hyn. Dw i鈥檔 gwybod mai dim ond mainc yw hi, ond mae鈥檔 symbol ac yn ddatganiad o gariad a chynwysoldeb. Mae鈥檔 rhywbeth dw i wedi gweithio mor galed amdano.
"Mae鈥檔 tref ni鈥檔 brydferth a dw i鈥檔 caru鈥檙 Bontfaen. Does gen i ddim syniad pam y byddai rhywun yn gwneud hyn. Mae casineb yn dal i fodoli ac mae鈥檔 gwneud i mi sylweddoli bod y frwydr yn parhau.鈥
Ond, mae鈥檙 canwr yn parhau i fod yn optimistaidd. Mae鈥檔 dweud bod Maer y Bontfaen, Malcolm Wilson wedi bod yn gefnogol iawn i Pride. Cynhaliwyd Bore Coffi gyda鈥檙 Maer yn gynharach ym mis Mehefin, eglurodd: 鈥淢ae Malcolm yn ddyn hyfryd, jyst ffantastig.鈥 Yn wir, roedd wedi dod i ddigwyddiadau Pride y gorffennol mewn sannau a chrys enfys Pride!
Wrth edrych ymlaen at wythnos Pride yn ei dref dywedodd H, sy鈥檔 dysgu Cymraeg, am y cyffro sy鈥檔 nodweddiadol ohono, 鈥淸Mae] lot o events. Gala y Bontfaen, a par锚d blwyddyn yma. Mae鈥檙 par锚d ar Fehefin 24 trwy鈥檙 stryd ac ar 么l y par锚d mae disgo.鈥
Bydd digwyddiadau bychain yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos hefyd gan gynnwys noson G诺yl Ffilmiau鈥檙 Iris Prize a sesiwn LGBTQ+A sef sesiwn mewn gofod diogel i bobl ddod i ofyn cwestiynau am unrhyw beth LHDTC+.
Mwy o ddigwyddiadau Pride
- Chwarae鈥檙 Chwedlau, The Queer Emporium, Caerdydd 鈥 15 Mehefin
Noson gomedi wreiddiol yw Chwarae鈥檙 Chwedlau sy鈥檔 cyfuno drag, comedi, cerddoriaeth a chwedlau Cymru! Bydd perfformwyr fel Catrin Feelings, Sara Huws, Laurie Watts a mwy yn cyflwyno eu dehongliadau nhw o chwedlau a mytholeg Cymru yn eu dull hwyliog, syfrdanol a cwiar eu hunain dan arweiniad cyflwynydd Radio Cymru a Radio Cymru 2, Mirain Iwerydd.
- Blanc ydi Blanc, Llyfrgell Caernarfon 鈥 22 Mehefin
Bydd y clwb llyfrau LHDTC+, Llyfrau Lliwgar, yn cynnal sesiwn hwyliog yn Llyfrgell Caernarfon rhwng 11:00 a 12:00 fore dydd Iau yr 22 o Fehefin. G锚m o lenwi鈥檙 bylchau yw Blanc ydi Blanc ac mae鈥檙 criw am annog pawb i fod mor greadigol 芒 hoffen nhw fod! Mae鈥檙 sesiwn yn addo digonedd o chwerthin a hwyl, ac mae鈥檙 cwbl am ddim.
- Pride Gogledd Cymru, Caernarfon 鈥 24 Mehefin
Bydd dau gig yn cael eu cynnal, un yn Neuadd y Farchnad ac un yn Yr Hen Lys gydag artistiaid fel Tara Bandito, Achlysurol, Lily Beau a Ffatri Jam yn perfformio. Yn ogsytal fe fydd par锚d, stondinau a gweithdai yn y dref.