Angen diwygio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 么l Starmer

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Prif Weinidog bod gan Lafur Cymru heriau wrth redeg y gwasanaeth iechyd
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae angen diwygio鈥檙 gwasanaeth iechyd yng Nghymru 鈥測n druenus鈥, meddai鈥檙 Prif Weinidog Keir Starmer.

Pan ofynnwyd iddo a oedd Llafur Cymru wedi rhedeg y gwasanaeth iechyd yn dda, dywedodd 鈥渕ae yna heriau鈥 dwi ddim yn mynd i esgus fel arall鈥.

Daeth ei sylwadau wrth i'r rhestrau aros am driniaeth gyrraedd eu lefel uchaf erioed yng Nghymru am y chweched mis yn olynol.

Mae Syr Keir wedi disgrifio鈥檙 gwasanaeth yn Lloegr fel un sydd wedi 鈥渢orri鈥, ond fe wrthododd ddweud yr un peth am Gymru, er bod rhai o'r amseroedd aros yn waeth.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd Eluned Morgan fod angen blaenoriaethu rhestrau aros cyn diwygio

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i鈥檙 Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan.

Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd fod angen diwygio, 鈥渙nd mae鈥檔 anodd gwneud hynny pan fo gennych chi restrau aros hir sy鈥檔 gorfod bod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd鈥.

Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru cyn cynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd Syr Keir ei fod ef a Morgan wedi trafod cyflwr y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd bod angen 鈥渢orchi llewys, cydweithio, rhannu arferion gorau a sicrhau nid yn unig y buddsoddiad ond y diwygio sydd ei angen yn druenus ar draws y ddarpariaeth iechyd - boed hynny yng Nghymru neu yn rhywle arall",

'Penderfynol o ymateb i'r heriau'

Mae gwasanaeth iechyd Cymru wedi cael ei redeg gan lywodraethau Llafur ers i ddatganoli ddechrau ym 1999.

Gofynnwyd i Syr Keir a oedd llywodraeth Cymru - sef ei blaid ef wedi gwneud yn dda yn ystod chwarter canrif mewn grym.

Dywedodd: 鈥淢ae yna heriau y mae angen eu cwrdd, does dim amheuaeth am hynny a dwi ddim yn mynd i esgus fel arall.

鈥淔y swydd i, gyda鈥檙 prif weinidog, yw gweithio gyda鈥檔 gilydd i ymateb i ba bynnag heriau sydd yna a chyfleoedd ledled Cymru ac rwy鈥檔 benderfynol o wneud hynny.鈥