Achos treisio'n gweld fideo o fenyw noeth wedi ei churo

Disgrifiad o'r llun, Liam Stimpson yn cael ei hebrwng i'r llys fore Mercher

Mae rheithgor wedi gweld fideo o fenyw noeth a oedd wedi cael ei churo yn ymbil ar ddyn sydd wedi'i gyhuddo o ymosod arni i stopio.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y fenyw 40 oed wedi cael ei dyrnu, ei chicio, ei stripio a'i threisio ddwywaith o dan bont yn agos i orsaf rheilffordd y ddinas yn oriau man 27 Rhagfyr y llynedd.

Mae Liam Stimpson, 24 oed o Gaerdydd, yn gwadu dau gyhuddiad o dreisio, achosi person i ymgymryd 芒 gweithred rywiol heb gydsynio ac anafu corfforol difrifol bwriadol.

Dywedwyd wrth y llys fod fideos o'r ymosodiad wedi eu canfod ar ff么n symudol Mr Stimpson wedi iddo gael ei arestio.

'Anarferol' dangos fideo o'r fath

Yn un o'r fideos a ddangoswyd i'r llys, fe welir y fenyw gyda'i hwyneb wedi chwyddo ac yn gwaedu - roedd ei llygad dde ar gau yn llwyr.

Mae'n codi ei dwylo tuag at yr ymosodwr gan ddweud: "Paid a 'nghuro fi babi, paid a 'nghuro fi plis. Mae gen i blant."

Fe glywir llais Liam Stimpson yn dweud wrthi: "Fe ddyweda i wrthot ti beth i wneud. Fi yw'r bos."

Ar adegau yn ystod y dystiolaeth fideo, roedd aelodau o'r rheithgor yn amlwg o dan deimlad. Fe wnaeth porthor y llys ddosbarthu hancesi papur a gwydriaid o dd诺r i'r naw menyw a thri dyn wrth iddyn nhw wylio'r delweddau ar sgriniau mawr.

Dwedodd y Barnwr Jeremy Jenkins wrthyn nhw ei bod yn anarferol i reithgor weld manylion mor graffig, ond eglurodd fod y diffynnydd yn honni bod y ddau wedi cael rhyw cydsyniol a'i bod yn bwysig felly iddyn nhw weld y fideos eu hunain.

Fe welwyd lluniau CCTV hefyd o'r fenyw yn dianc ac yn rhedeg o'r bont i gyfeiriad Stryd y Santes Fair tua 04:45. Mae'n cael ei herlid, ei dyrnu a'i chicio tra ar y llawr.

Fe glywodd staff glanhau yn nhafarn y Great Western gerllaw rhywun yn sgrechian am gymorth, ac yna fe welir y fenyw yn rhedeg i mewn i'r dafarn cyn i'r heddlu gyrraedd yn fuan wedyn.

Clywodd y llys fod Liam Stimpson yng nghanol y ddinas ar Ddydd San Steffan yn dathlu ei ben-blwydd pan wnaeth gyfarfod y fenyw, oedd yn ddigartref.

Cafodd ei arestio yn ddiweddarach ar fore 27 Rhagfyr.

Mewn datganiad i'r heddlu dywedodd fod y fenyw wedi mynd ato a'i fod wedi ei thalu i gael rhyw gydag ef, a bod hynny'n gydsyniol.

Ni wnaeth unrhyw sylw pan ofynnwyd cwestiynau pellach iddo gan blismyn.

Gwadu bod yn weithiwr rhyw

Wrth roi tystiolaeth o'r tu 么l i sgr卯n, fe soniodd y fenyw am y foment pan ymosodwyd arni a'i threisio o dan bont ger gorsaf rheilffordd Caerdydd Canolog.

"Rwy'n cofio iddo fy nharo ar fy mhen. Roedd e'n edrych fel morthwyl. Fe wnaeth e daro fi ar fy mhen sawl gwaith, fy llygaid, fy mochau," meddai.

"Rwy'n cofio deffro mewn poen o dan y bont. Roedd e'n chwerthin. Gofynnodd i mi gropian fel ci."

Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr Mr Stimpson, Ruth Smith, fe gyfaddefodd y fenyw ei bod yn gaeth i goc锚n a bod hynny wedi deillio o farwolaeth aelod agos o'i theulu.

Ond gwadodd bod yn weithiwr rhyw a chynnig i gael rhyw gyda Mr Stimpson am 拢20.

Gofynnodd Ms Smith: "Dydych chi ddim am ddweud wrth y llys, ond roeddech chi'n gweithio fel gweithiwr rhyw y noson honno?"

Atebodd y fenyw: "Rwy'n fam, yn nain ac yn fenyw dda. Dydw i ddim yn butain."

Dywedodd Ms Smith: "Rydych chi wedi gwneud cyhuddiadau ffug am dreisio yn y gorffennol ond dydych chi?"

"Na," atebodd y fenyw.

Wrth iddi roi ei thystiolaeth, roedd y diffynnydd yn crio'n uchel yn y doc.

Mae'r achos yn parhau.