Gwrthdrawiad tr锚n Powys yn teimlo fel 'breuddwyd wael'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Roedd Jonah Evans yn teithio n么l i'r Borth ar 么l treulio penwythnos ym Mryste yn dathlu ei ben-blwydd

Mae dyn oedd yn teithio ar y tr锚n a darodd yn erbyn tr锚n arall ger Llanbrynmair nos Lun yn dweud bod y digwyddiad yn teimlo fel "breuddwyd wael".

Roedd Jonah Evans, 25, yn gwylio drama Netflix ar y pryd.

鈥淩hedodd y gyrwyr drwy鈥檙 drysau yn gweiddi 'paratowch eich hunain, byddwch yn barod, ni mynd i daro tr锚n arall',鈥 meddai Jonah.

Dim ond eiliadau oedd ganddo i baratoi ar gyfer y gwrthdrawiad.

"Yr hyn a ddaeth i'm meddwl oedd ...'ei bod wedi bod yn daith dda, mae wedi bod yn fywyd da'," meddai wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru.

Bu farw Tudor Evans, 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, wedi鈥檙 gwrthdrawiad a chafodd 15 o bobl eraill eu hanafu.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Digwyddodd gwrthdrawiad rhwng dau dr锚n ger Llanbrynmair ym Mhowys nos Lun

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 19:30 nos Lun ar 么l adroddiadau o ddamwain cyflymder isel.

Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.

Mae'r heddlu'n credu fod y tr锚n i gyfeiriad y gorllewin wedi taro'r tr锚n llonydd oedd yn mynd tuag at y dwyrain.

Roedd Jonah, sy'n artist ac yn ddylunydd graffig, yn teithio n么l i'r Borth ar 么l treulio penwythnos ym Mryste yn dathlu ei ben-blwydd, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Ar 么l i'w dr锚n daro鈥檙 tr锚n llonydd dywedodd ei fod yn teimlo "fel bod popeth yn symud yn araf".

Cafodd teithwyr ar wasanaeth 18:31 tua'r gorllewin o'r Amwythig i Aberystwyth, eu taflu o'u seddi. Ni chafodd Mr Evans anaf heblaw anaf atchwip (whiplash).

"Roedd gweld pawb yn ofidus yn ofnadwy... mae'n teimlo fel breuddwyd wael rywsut," meddai.

鈥淩oedd yna un ferch yn beichio crio yn uchel, roedd hi yn eistedd ger y bwrdd ac fe gafodd ei tharo yng nghanol ei chorff a dechreuodd chwydu," meddai.

"Roedd e'n erchyll iawn."

Dywed ei fod yn cofio gweld pobl o'i gwmpas gydag anafiadau i'w asennau, roedd braich un wedi torri ac roedd person arall wedi colli rhai dannedd.

Disgrifiad o'r fideo, Menyw ifanc ddim yn cofio damwain tr锚n ar 么l taro'i phen

Roedd Bethan Evans, 23 o Dal-y-bont yng Ngheredigion, hefyd ar y tr锚n oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth.

Dywedodd bod ei bag wedi disgyn oddi ar y sedd, a bod y tr锚n wedi dod i stop, ond doedd hi ddim wedi sylweddoli bod y tr锚n wedi bod mewn damwain.

"Y peth ola' fi'n cofio, o'n i'n darllen llyfr. Dwi'n cofio droppio llyfr fi a theimlo'r br锚cs ond oedd y tr锚n yn dal i fynd yn gyflym," meddai.

Dywedodd mai cleisiau ar ei choesau yw'r unig arwyddion allanol ei bod wedi bod mewn gwrthdrawiad, ond ei bod hefyd wedi cael "pen tost a wedi bod yn sick dwywaith, fi'n credu achos bo' fi wedi bwrw pen fi".

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad, a dywedodd Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw wedi sefydlu ymchwiliad troseddol hyd yma.

Mewn datganiad dywedodd yr RAIB fod eu hymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya a bod asesiad o'r rheilffordd yn awgrymu fod y tr锚n wedi llithro wrth geisio dod i stop.

Dywedodd Network Rail eu bod nhw'n gobeithio "dysgu gwersi ar unwaith" er mwyn atal unrhyw wrthdrawiadau tebyg yn y dyfodol, gan ddisgrifio'r ymchwiliad fel un "cymhleth".