Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd
Mae dynes yn ei 60au a gafodd anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ne Gwynedd dair wythnos yn 么l wedi marw yn yr ysbyty.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 yn ardal Tan-y-Bwlch, Maentwrog tua 10:20 fore Mawrth 13 Awst.
Roedd yna ddau gerbyd yn y gwrthdrawiad - car Fiat Abarth a lori.
Bu'n rhaid cludo gyrrwr y Fiat mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Stoke, ond bu farw o'i hanafiadau ddydd Gwener, 30 Awst.
Dywedodd Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru bod ci a oedd yn y car gyda'r ddynes wedi gwella'n llwyr o'r anafiadau a gafodd yn y digwyddiad.
Mae manylion yr achos wedi eu rhoi i'r crwner, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Gan gydymdeimlo 芒 theulu'r ddynes a fu farw, mae'r Ditectif Sarjant Katie Davies o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yn diolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu 芒'r heddlu.
Ond parhau mae'r ap锚l i glywed "gynted 芒 phosib" gan "unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad sydd eto i siarad 芒 ni, neu unrhyw un allai fod wedi teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad allai fod 芒 lluniau dash cam".