Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Darganfod dros 400 o blanhigion canabis ger gorsaf heddlu
Mae swm mawr o gyffuriau wedi'i ddarganfod mewn adeilad ger gorsaf heddlu yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd 435 o blanhigion canabis eu symud o hen siop Co-op yng Nghastell Newydd Emlyn, bedwar drws o'r orsaf heddlu.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys warant i archwilio'r adeilad nos Fercher, 6 Tachwedd.
Dywedodd person sy'n gweithio yn y dref, sydd am aros yn ddi-enw, wrth 大象传媒 Cymru "nad yw'n synnu" bod cyffuriau wedi ei ddarganfod yno a bod "arogl wedi bod yno ers mis, o leiaf".
Mae swyddogion yn dweud na chafodd unrhyw un ei arestio a'u bod nhw'n dal i ymchwilio.
Dywedodd yr heddlu bydd swyddogion yn yr ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn achosion o'r fath yn dod yn fwy cyffredin.
"Ni wedi gweld mwy o hyn yn digwydd yng ngorllewin Cymru dros y misoedd a'r flwyddyn ddiwethaf, ble mae unigolion yn tyfu canabis mewn hen adeiladau sydd yng nghanol cymunedau," meddai.
"Mae'r grwpiau yma'n dod, yn trial darganfod rhywle sydd efallai yn anghysbell - canol tref tawel yng ngorllewin Cymru - ac wedyn yn cynhyrchu'r cyffuriau i werthu lan y gadwyn mewn mannau eraill ym Mhrydain.
"Be' sy'n bwysig yw bod y cyhoedd, pan maen nhw'n gweld rhywbeth amheus neu rywbeth sydd ddim yn taro deuddeg, yn cysylltu 'da'r heddlu.
"Ni'n dibynnu ar y gymuned yn lleol a gwybodaeth yn dod o'r cyhoedd."