Fy nhaith i Antarctica i godi lleisiau merched mewn gwyddoniaeth

Ffynhonnell y llun, Kath Whittey

鈥淢ond yn yr '80au oedd merched yn cael mynd lawr i Antarctica. Cyn hynny, roedd y cwmn茂oedd yn gwrthod mynd 芒 chi, hyd yn oed os oeddech chi鈥檔 experts yn y maes o wyddoniaeth Antarctica!鈥

Yn ffodus, mae pethau wedi newid a ddechrau Tachwedd, mae Kath Whittey, bywydegydd morol o Ddolgellau, yn un o 186 o wyddonwyr benywaidd sydd yn teithio i gyfandir mwyaf deheuol y ddaear am fordaith o 19 noson.

Bwriad prosiect Homeward Bound yw i godi lleisiau merched ym maes gwyddoniaeth fel arweinwyr i 'greu byd mwy cynaliadwy'.

Cafodd Kath sgwrs ar raglen Aled Hughes ar 大象传媒 Radio Cymru am y profiad bythgofiadwy sydd o鈥檌 blaen.

Teithio 10,000 o filltiroedd

Bydd Kath yn dechrau ar ei thaith 10,000 o filltiroedd o ogledd Cymru i Antarctica drwy hedfan i Ushuaia, pegwn mwyaf deheuol Yr Ariannin.

Ar 么l cyfarfod ei chyd-wyddonwyr a chymryd rhan mewn gweithdai, bydd hi'n hwylio ar un o ddwy long fydd yn cludo gwyddonwyr benywaidd o bedwar ban byd ar y fordaith.

Ffynhonnell y llun, Oli Samsom

Disgrifiad o'r llun, Un o deithiau blaenorol Homeward Bound i Antarctica

Bydd y daith ar y llong yn ddibynnol ar y tywydd a鈥檙 amodau o鈥檜 cwmpas, meddai Kath, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o鈥檙 cyfandir wedi ei orchuddio gan rew.

鈥溾楧an ni鈥檔 croesi鈥檙 Drake Passage 鈥 dwi鈥檔 trio peidio meddwl am y peth, achos mae 鈥榥a straeon yn dod o鈥檙 lle 鈥榥a... wedyn lawr i Benrhyn Antarctica, wedyn i lawr.

鈥溾楧an ni ddim yn gwybod i lle yn union, mae鈥檔 dibynnu faint o rew sy 鈥榥a, ond byddwn ni yno yn ystod yr haf, so gobeithio fyddwn ni鈥檔 gallu mynd i lawr i lanio ar dir hefyd.鈥

Profiad 'anhygoel'

Mae cyfyngiadau COVID diweddar yn golygu fod y prosiect ddim wedi gallu digwydd am y blynyddoedd diwethaf, eglurodd:

鈥淎chos COVID, mae ganddon ni backlog o ddwy flynedd o ferched eisiau mynd. Doedden ni ddim yn gwybod os oedden ni鈥檔 gallu mynd am y flwyddyn ddiwetha', achos mae cyfyngiadau COVID dal mewn lle yn Antarctica, gyda phethau yn cael eu rheoli reit dynn.

So ddaru fi glywed mod i鈥檔 cael mynd, ac o鈥檔 i鈥檔 amazed. Ond wedyn ar 么l hynny, paratoi, a gneud gwaith... Dim ond pan dwi ar fin cysgu dwi鈥檔 meddwl am pa mor anhygoel fydd hi yna!鈥

Mae Kath, gyda helpu ei theulu a'i ffrindiau, yn brysur yn codi 拢10,000 i dalu am ei thaith - 拢1 am bob milltir bydd hi'n ei deithio i waelod y byd.

Dysgu gan wledydd eraill y byd

Cyfandir rhyngwladol yw Antarctica mewn ffordd eglura Kath; does dim pobl yno i siarad am hawliau鈥檙 lle heblaw pobl o wledydd eraill dros y byd, sydd yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ddysgu ohono, meddai.

鈥淒oes yna neb yn sefyll i fyny dros Antarctica i ddweud 鈥榩eidiwch 芒 chymryd y pysgod鈥, 鈥榩eidiwch 芒 gwneud yr oil drilling 蹿补苍鈥档补鈥.

"Mae i gyd o鈥檙 protection yna sy'n dod gan bobl ar draws y byd, sydd wedi dod at ei gilydd ac arwyddo treaty sy鈥檔 amddiffyn Antarctica.

鈥淢ae hynny werth i ni gymryd sylw ohono fo. Os allwn ni ddysgu sut mae hynny i gyd yn gweithio, ella allwn ni 'neud yr un peth efo byd natur ar draws y byd hefyd.鈥

Teimlo鈥檙 hiraeth

Yn arfer teithio'n rheolaidd i Tobago i astudio riffiau, mae Kath bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor yn astudio鈥檙 boblogaeth cimwch a chranc yng Nghymru a Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Kath Whittey

Disgrifiad o'r llun, Kath yn astudio riffiau yn Tobago

Mae'n gobeithio dod 芒 beth mae'n ei ddysgu gan ei chyd-wyddonwyr, a gan y cyfandir ei hun, yn n么l adref gyda hi.

Fodd bynnag, er ei chyffro, mae beth sydd yn ei disgwyl yno yn peri ychydig o bryder iddi ar adegau, meddai.

鈥淲eithiau dwi ddim yn [teimlo'n] gyffrous am fynd... Dwi reit sensitif, a dwi鈥檔 meddwl fydd o yn anodd i mi weld yn union beth sydd yn digwydd yna. Fydd yna lefydd lle fyddwn ni鈥檔 gwybod oedd 鈥榥a colonies o bengwiniaid, a r诺an ella does yna ddim.

鈥淔elly fydd gweld hynny reit anodd dwi鈥檔 meddwl, ond mae鈥檔 bwysig i ni ei weld o.

鈥淯n o鈥檙 pethau dwi鈥檔 gobeithio ydi i ddysgu o Antarctica fel lle. Mae鈥檔 reit anodd i egluro hyn yn Saesneg, ond mae gair Cymraeg yn dweud yn union beth ydi鈥檙 teimlad o gysylltiad efo鈥檙 tir, sef 鈥榟iraeth鈥.

鈥淒wi yn gobeithio cael y teimlad yna tuag at Antarctica, ac efo鈥檙 teimlad yna, gwneud rhywbeth am y ffaith ei fod o鈥檔 toddi.鈥