Tata i ailagor trafodaethau os yw streic yn cael ei gohirio

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i aelodau undeb Unite weithredu o 8 Gorffennaf

Mae cwmni Tata Steel wedi cynnig cyfarfod undebau ar gyfer trafodaethau o'r newydd ar yr amod bod undeb Unite yn gohirio streic sydd wedi'i threfnu ar gyfer 8 Gorffennaf.

Y gred yw bod y cwmni, mewn llythyr i Bwyllgor Dur y DU - sy'n cynrychioli undebau Community, Unite a'r GMB - wedi cynnig trafod buddsoddiad yn safle Port Talbot ar gyfer y dyfodol.

Ond byddai'n rhaid i'r undebau ohirio unrhyw weithredu diwydiannol yn ne Cymru.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru: "Os ydyn nhw'n gohirio cau, byddwn ni'n gohirio gweithredu."

Mae gweithwyr Unite wedi trefnu i streicio am gyfnod amhenodol o 8 Gorffennaf dros gynlluniau Tata i dorri 2,800 o swyddi.

Mae'r undeb eisiau i Tata oedi cyn cau ffwrneisi chwyth Port Talbot, sydd i fod i ddigwydd fis Medi.

Mae gan undebau Community a'r GMB hefyd fandad gan eu haelodau i streicio, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi unrhyw ddyddiadau, gan ddweud y byddan nhw'n disgwyl tan ar ôl yr etholiad cyffredinol cyn penderfynu beth i'w wneud nesaf.

Daw'r cynnig i ailagor trafodaethau yn dilyn trafodaethau rhwng Tata ac Unite yn y dyddiau diwethaf, wedi i'r cwmni gyhoeddi y gallai gau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn gynnar.

Dydd Iau dywedodd Tata y byddai'n cau'r ffwrneisi yr wythnos nesaf os na fyddai modd eu "gweithredu'n ddiogel" yn ystod y streic.

Dydd Sul fe ysgrifennodd y cwmni at yr undebau yn cynnig dechrau trafodaethau o'r newydd pe bai'r streic yn cael ei gohirio.

Y gred yw bod y trafodaethau newydd yn ymwneud â buddsoddiad yn safle Port Talbot yn y dyfodol.