Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tata: Ystyried cau ffwrneisi chwyth yn gynt na'r disgwyl
Mae Tata Steel yn ystyried cau ffwrneisi chwyth safle Port Talbot yn gynt na'r disgwyl yn sgil gweithredu diwydiannol gan aelodau o undeb Unite.
Roedd disgwyl i'r cwmni gael gwared ag un o’r ddwy ffwrnais chwyth ar y safle erbyn diwedd Mehefin, cyn i'r ail gau ym mis Medi.
Ond mae gweithwyr ar y safle wedi cael gwybod bod y cwmni yn cymryd camau i ddod â rhannau o'r gwaith ar y safle i ben erbyn 7 Gorffennaf.
Dywedodd Tata mewn datganiad "nad oes dewis arall ond cymryd camau i oedi neu ddod â gwaith trwm ar y safle i ben".
Dywedodd undeb Unite eu bod nhw'n brwydro i sicrhau dyfodol y diwydiant dur ac mae undeb y GMB yn dweud ei fod yn "ddiwrnod trist i'r diwydiant".
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth gweithwyr dur o undeb Unite bleidleisio dros weithredu diwydiannol yn sgil cynlluniau ailstrwythuro Tata.
Bydd bron i 3,000 o swyddi'n mynd drwy'r DU dan gynlluniau'r cwmni - 2,800 o'r rheiny ym Mhort Talbot.
Dywedodd yr undeb fod tua 1,500 o'u haelodau wedi pleidleisio dros weithredu yn erbyn y cynlluniau, allai olygu colli bron i hanner gweithlu Port Talbot.
Fe rybuddiodd Tata ar y pryd y byddai unrhyw fygythiad i ddiogelwch neu sefydlogrwydd y safle yn eu gorfodi i gyflymu'r broses o gau'r ffwrneisi.
Mae Tata wedi galw ar undeb Unite i gefnu ar eu cynlluniau i weithredu'n ddiwydiannol, ac i ystyried eu cynigion diweddaraf.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Yn dilyn y cyhoeddiad gan undeb Unite ynglŷn â gweithredu diwydiannol o 8 Gorffennaf, mae Tata Steel wedi gorfod cymryd camau cyfreithiol i herio dilysrwydd eu pleidlais.
"Yn y dyddiau nesaf, os na allwn ni fod yn sicr fod modd parhau â'n gwaith ar y safle yn ddiogel ac yn sefydlog drwy unrhyw gyfnod o streicio, yna ni fydd dewis arall ond oedi neu ddod â gwaith trwm i ben ar safle Port Talbot.
"Dydy hwn ddim yn benderfyniad hawdd, a ry'n ni'n cydnabod y gallai fod yn gostus ac y gallai amharu ar y gadwyn gyflenwi, ond mae diogelwch y bobl ar ein safleoedd wastad am fod yn flaenoriaeth i ni."
Mewn datganiad, dywedodd undeb Unite: "Y datganiad gan Tata, sy'n bygwth cau'r ffwrneisi chwyth yn gynt na'r disgwyl, yw'r diweddaraf mewn cyfres o fygythiadau.
"Dyw hynny ddim am ein hatal.
"Dim gwerthu swyddi yw pwrpas ymgyrch Unite, y pwrpas yw sicrhau dyfodol hir dymor y diwydiant dur yn y wlad hon ar gyfer miloedd o weithwyr ym Mhort Talbot a de Cymru.
"Ry'n ni'n galw ar y rhai sydd wir yn gwneud y penderfyniadau ym Mumbai i gymryd rheolaeth o'r ddadl yma, i eistedd lawr, trafod, a sicrhau y byddai buddsoddiad ychwanegol yn dda i'r cwmni a'r gweithwyr."
'Diwrnod trist i'r diwydiant'
Wrth ymateb i gyhoeddiad Tata, dywedodd Charlotte Brumpton-Childs o undeb y GMB: "Mae'n ddiwrnod trist i'r diwydiant dur.
"Mae'n rhaid i Tata wyrdroi'r penderfyniad yma a diogelu'r diwydiant.
"Mae 'na etholiad cyffredinol mewn dyddiau allai newid cymaint.
"Rydyn ni'n gwybod bod dyfodol i'r diwydiant yn ne Cymru ac aelodau'r GMB fydd yn penderfynu ar gamau nesa'r undeb."
Dadansoddiad ein gohebydd Ben Price
Mae Unite yn un o dri undeb sy’n cynrychioli gweithwyr dur. Nhw sydd wedi bod fwyaf ymosodol yn eu hymateb i gynlluniau Tata i dorri miloedd o swyddi.
Yn ôl Tata, does dim dewis ganddyn nhw ond cau, os aiff eu streic yn ei blaen.
Yn y cyfamser, mae’r cwmni wedi cyflwyno cais am orchymyn yn yr Uchel Lys er mwyn ceisio rhwystro’r streic rhag digwydd.
Mae’r cwmni’n awgrymu na chafodd pleidlais Unite ar weithredu diwydiannol ei chynnal yn gywir.
Mae’r undebau eraill - Community a GMB - yn dweud y byddan nhw’n aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol cyn penderfynu a fydd eu haelodau’n streicio.
Ond ar ôl siarad gyda sawl gweithiwr dur ym Mhort Talbot, mae 'na deimlad cyffredinol nad oes awydd gan lawer i streicio a pheryglu’r cynnig diswyddiad presennol gan y cwmni.
Gallai beth fydd yn digwydd dros yr wythnos nesaf fod yn dyngedfennol i ddyfodol bywoliaeth miloedd o bobl, er bod Tata yn mynnu na fydd diswyddiadau yn digwydd tan ddiwedd mis Medi beth bynnag.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd yr economegydd Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd fod y "datblygiadau yn bryderus iawn a'r teuluoedd sy'n perthyn i'r gweithwyr o gwmpas y gweithfeydd dur a'r gadwyn gyflenwi".
"'Da ni mewn sefyllfa lle mae pleidiau gwleidyddol yn canolbwyntio ar yr etholiad, ac mae'n anodd gweld be sy'n digwydd, ac a oes 'na gynllun i ddelio â'r sefyllfa bresennol.
"Mae'n anodd gwybod a ydy hyn yn fygythiad sydd yn trio osgoi'r streiciau rhag digwydd neu wir yn meddwl newid yr amserlen."
Beth yw'r ymateb gwleidyddol?
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad nos Iau, dywedodd Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething fod y newyddion yn "syfrdanol", gan alw ar y cwmni i aros i weld canlyniad yr etholiad cyffredinol.
"Mae'r cynlluniau posib i gau ffwrneisi chwyth pedwar a phump ym Mhort Talbot yr wythnos nesaf yn syfrdanol, a bydd hynny yn achosi poen meddwl enfawr i'r gweithlu, eu teuluoedd a'r gymuned yn ehangach," meddai.
"Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gallu cefnogi'r cynlluniau i gau'r ffwrneisi.
"Ry'n ni wedi dweud sawl tro, dylai'r cwmni aros i weld canlyniad yr etholiad cyffredinol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau na ellir eu gwyrdroi."
Mae'r cyhoeddiad, medd llefarydd yr economi ac ynni'r Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz, yn "siomedig" ac yn rhoi "mwy o straen i gymunedau sydd eisoes â digon i'w poeni".
Fe gyhuddodd Tata o "ddiffyg ewyllys da i'w gweithwyr ar adeg ofidus".
Dywedodd hefyd bod llywodraeth Lafur Cymru wedi "esgus cefnogi gweithlu Tata, gan fethu â chyfrannu ceiniog i'r bwrdd trawsnewid, a dydy maniffesto Llafur y DU yn dweud dim o ran beth fyddai'n gwneud yn wahanol i gefnogi gweithwyr dur Tata".
Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher yn dweud y dylai llywodraeth nesa'r DU fod yn gyfrifol am y diwydiant dur fydd, ym marn y blaid, yn cael ei harwain gan Syr Keir Starmer.
Dywedodd: "Mae'r newyddion yn ofnadwy i Gymru, ein heconomi a'n cymunedau.
"Digon yw digon - mae'n amser i fod yn feiddgar a mentrus oherwydd os nad ydyn ni, fydd cenedlaethau dyfodol ddim yn diolch i ni am adael i'r diwydiant wywo."
Yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds mae "agwedd lawdrwm ddiangen Tata at yr argyfwng yma" ond yn gwaethygu'r sefyllfa "i weithwyr sydd eisoes yn bryderus ynghylch colli eu bywoliaeth".
Bydd cynlluniau Tata, meddai, yn arwain at "drychineb economaidd i filoedd o weithwyr, eu teuluoedd a chymuned Port Talbot".
Galwodd yn hytrach am "gynllun cynhwysfawr, wedi ei greu gyda chydweithrediad y gweithwyr, sy'n darparu ailhyfforddiant yn ogystal â sefydlogrwydd ariannol ac urddas".