Streic y Glowyr: Atgofion menywod o'r cyfnod

Ffynhonnell y llun, Grwpiau Cefnogi Menywod De Cymru, trwy law Archifau Morgannwg

Disgrifiad o'r llun, Menywod yn ymgyrchu yn ystod streic y glowyr
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru

A hithau'n 40 mlynedd ers streic y glowyr, mae cyn Aelod Cynulliad fu'n helpu'n ei chymuned yn ystod y cyfnod yn dweud bod "mwy o barch" bellach "i rôl a barn menywod yn ein pentrefi ac o fewn gwleidyddiaeth".

"Rwy' wedi gweld menywod yn cymryd camau 'mlaen, a mwy o fenywod yn cynrychioli eu cymunedau a phobl eu cymunedau," meddai.

Roedd Gwenda Thomas yn helpu mewn canolfan ym mhentre’ Gwaun Cae Gurwen yn Nyffryn Aman yn dosbarthu nwyddau i deuluoedd glowyr ar streic.

"Netho ni gael siop fach ac o ni'n cymryd rhoddion a chasglu arian o ddydd i ddydd."

Disgrifiad o'r llun, Bu Gwenda Thomas yn helpu mewn canolfan ym mhentre Gwaun Cae Gurwen yn Nyffryn Aman adeg streic y glowyr

Mewn cyfnod heriol yn ariannol, roedd y grŵp yn ceisio arbed arian.

"Dim ond Norman's cash and carry oedd fodlon gneud, felly buo ni fel grŵp yn siopa fan'na. O wythnos i wythnos, dim ond corned beef a beans o ni'n gallu fforddio ac fe fuo ni'n dosbarthu y bwyd o'r neuadd gymuned."

Fe wnaeth Mrs Thomas neilltuo ystafell yn ei chartre’ lle byddai'r glowyr yn dod i gwrdd neu ymlacio yng nghanol tensiynau'r brotest, ac wrth edrych 'nôl ar y flwyddyn, mae'n cofio'r gymuned yn dod ynghyd i gefnogi.

"Rwy'n cofio cael cyngerdd mawr yng nghapel Carmel Cwmgors, a'r lle yn orlawn."

Ffynhonnell y llun, Grwpiau Cefnogi, Menywod De Cymru, drwy law Archifau Morgannwg

Disgrifiad o'r llun, Roedd rôl menywod yn ystod streic y glowyr yn allweddol

Un arall fu'n helpu i godi arian i'r glowyr oedd Ann Soroka ym mhentref Ystradgynlais.

Roedd ei gŵr a'i mab hynaf ar streic, ac roedd ganddi ddau fab arall oedd yn ddiwaith.

Dywedodd: "Bydden ni'n dod i'r neuadd fan hyn yn Ystrad i neud te a choffi ac roedd fy mam yn gneud pice ar y maen a bydden ni'n dod â rheina i'w gwerthu."

Esboniodd ei bod yn teimlo eu bod yn "g'neud rwbeth i helpu".

"Roedd sweet peas yn tyfu yn yr ardd, a bydde ni'n torri tusw o'r blodau a'u gwerthu am ugain ceiniog."

Dywedodd ei bod yn edmygu'r menywod oedd yn picedu adeg y streic.

"Roedden nhw yn 'rwbeth arall' ac yn gadarn a ddim yn ofni dim byd."

Ffynhonnell y llun, Grwpiau Cefnogi Menywod De Cymru, trwy law Archifau Morgannwg

Disgrifiad o'r llun, Roedd Sian James yn rhannu llwyfan ag arweinwyr y streic, yn areithio a cheisio ennill cefnogaeth

Bu'r cyn aelod seneddol Llafur, Sian James, ar sawl llinell biced.

Roedd ei gŵr yn löwr ym mhwll Abernant ac o ganlyniad roedd yn teimlo "bod rhaid chware rhan."

Dywedodd: "Doedd hi ddim yn bosib i'r Bwrdd Glo ein sacio ni. Os bydde ni'n sefyll ar eu tir nhw, bydde ni ffili cael sac.

"Beth oedd y pwynt i'r heddlu ein herlid ni i'r llys?

"Doedd dim arian gyda ni... roedd hi'n wahanol i'r dynion, ac felly roedd menywod yn gwbod bod rhaid i ni neud mwy."

Ffynhonnell y llun, Grwpiau Cefnogi, Menywod De Cymru, trwy law Archifau Morgannwg

Disgrifiad o'r llun, Roedd y streic wedi newid bywydau menywod a'u rôl yn eu cymunedau'n llwyr

Yn ystod y streic, fe wnaeth grwpiau menywod helpu i fwydo teuluoedd cannoedd o o lowyr.

Ar draws cymoedd Dulais, Tawe a Nedd, roedd 4,000 o deuluoedd yn cael eu bwydo bob wythnos gyda help grwpiau menywod.

Meddai Sian James: "Y peth oedd yn ein rhwymo ni i gyd at ein gilydd oedd ein bod ni'n ymladd nid dros arian neu gyflog, neu oriau neu amodau, ond dros swyddi ein gwÅ·r, y gymdeithas a'r gymdogaeth."

Ychwanegodd fod gweithredu fel un llais yn bwysig.

"Roedden ni'n unedig wrth drio gneud yn siwr bod gobaith o hyd i'n cymunedau ni ar ôl i'r pyllau glo gau."