Plaid Reform i sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae arweinydd y blaid, Richard Tice wedi bod yn feirniadol o bolisiau mewnfudo Llywodraeth y DU

Mae plaid Reform yn dweud y bydd ymgeiswyr yn sefyll ym mhob sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

Mae'r blaid yn bwriadu ymgyrchu ar hyd y gogledd ddwyrain, i lawr y ffin 芒 Lloegr ac o gymoedd y de hyd at Sir Benfro - yn si芒p "C tu chwith Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid ei bod hi am fod yn her i ennill seddi yn yr etholiad yma, ond ei fod yn hyderus y bydd modd "adeiladu" a thargedu seddi yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

Mae'r blaid wedi bod yn feirniadol o safbwynt y Ceidwadwyr ar fewnfudo ac eisiau gweld rheolau llymach yn cael eu cyflwyno.

Dywedodd llefarydd y blaid, Gawain Towler: "Ar hyd arfordir y gogledd ddwyrain, y Fflint, Clwyd, Wrecsam, Sir Drefaldwyn, Aberhonddu, Mynwy, ar draws cymoedd de Cymru i Sir Benfro - yr C tu chwith Cymru yw ein hardal gryfaf ond byddwn yn ymladd ym mhobman.

Ychwanegodd y bydd hi'n "galed" i'r blaid ennill seddi dan y system cyntaf i'r felin - sy'n golygu mai'r ymgeisydd sydd 芒'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n dod yn Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal honno.

Ond os allai'r blaid "adeiladu" a sicrhau "perfformiad cryf ar draws Cymru" yna mae'n hyderus y bydd modd ennill seddi yn etholiadau nesaf Senedd Cymru.

System bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio yn yr etholiadau hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae canlyniadau isetholiadau'n awgrymu mai'r Ceidwadwyr sy'n fwyaf tebygol o golli pleidleiswyr i Reform

Dywedodd arweinydd plaid Reform UK, Richard Tice wrth 大象传媒 Cymru mai prif fater yr etholiad oedd mewnfudo.

"Dylai hwn fod yn etholiad am y pwysau enfawr sy'n dod yn sgil mewnfudo - sy'n gwneud pawb o amgylch y Deyrnas Unedig yn dlotach yn ariannol ac yn effeithio ar brisiau tai, rhent a'n gwasanaethau iechyd.

"Mae'r ddwy brif blaid yn sefyll am drethi uwch, mewnfudo torfol a does ganddyn nhw ddim cynllun i wella amseroedd aros y gwasanaeth iechyd.

"Mae democratiaeth yn well pan fod fwy o ddadl a mwy o ddewis. Dydy'r dewis rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr ddim yn ddewis mewn gwirionedd.

"Os ydych chi eisiau polisi mewnfudo doeth, yna'r peth doeth i wneud ydy pleidleisio dros Reform UK."

Mae Reform yn mynnu eu bod nhw'n targedu pleidleiswyr Llafur a'r Ceidwadwyr, ond mae tystiolaeth o isetholiadau yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr sydd yn fwyaf tebygol o golli pleidleisiau i Reform.

Ar hyn o bryd nid oes gan Reform unrhyw aelodau yn Senedd Cymru.

Roedd y blaid yn cael ei harwain gan Nigel Farage rhwng 2019 a 2021, pan oedd yn cael ei hadnabod fel Plaid Brexit.

Fe fydd Cymru yn anfon 32 aelod i San Steffan, yn hytrach na'r 40 sydd wedi bod ym mhob etholiad ers 1997.

Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau mawr i rai ardaloedd o Gymru, gyda rhai etholaethau yn uno, ac eraill yn diflannu'n llwyr.