大象传媒

Dyfrig Siencyn yn camu lawr fel arweinydd Cyngor Gwynedd

Dyfrig Siencyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dyfrig Siencyn wedi bod o dan bwysau ers i bedwar aelod o'r cabinet ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo ar 么l iddo beidio yn wreiddiol ag ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden.

Ddydd Gwener fe ymddiswyddodd pedwar aelod cabinet ar 么l sylwadau Dyfrig Siencyn mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn gynharach eleni am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Mae Mr Siencyn bellach wedi ymddiheuro "yn ddiffuant" i'w ddioddefwyr gan alw am ymchwiliad cyhoeddus.

Yn gynharach ddydd Iau, daeth cyhoeddiad fod Mr Siencyn wedi camu'n 么l o arwain gr诺p Plaid Cymru y cyngor.

Dywedodd y cyngor mai'r Cynghorydd Nia Jeffreys fydd yr arweinydd dros dro.

'Cyfnod mwyaf heriol'

Bu Mr Siencyn yn y swydd ers 2017, ac mae Newyddion S4C ar ddeall iddo gytuno i gamu lawr o鈥檌 r么l mewn cyfarfod gr诺p Cynghorwyr Plaid Cymru nos Fercher.

Y gred yw bod rhai o鈥檌 gyd-gynghorwyr Plaid Cymru wedi cyflwyno llythyr iddo yn diolch am ei waith ond yn galw arno i fynd.

Mewn datganiad yn disgrifio'r "anrhydedd" o arwain y cyngor dros saith mlynedd, dywedodd Mr Siencyn bod achos y cyn-brifathro a gafodd ei garcharu ym mis Gorffennaf am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol wedi creu heriau.

"Rhaid i mi gydnabod fod y cyfnod mwyaf diweddar hwn - a'r wybodaeth erchyll sydd wedi dod i'r amlwg am weithredoedd anfaddeuol y pedoffeil Neil Foden - wedi bod y mwyaf heriol i'r Cyngor fel awdurdod ac i minnau fel Arweinydd," dywedodd.

"Mae'n ddrwg calon gen i am y boen mae'r dioddefwyr a'u teuluoedd wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn hwn, ac maent yn parhau i fod ar flaen fy meddwl."

Mewn datganiad fore Iau ar ran gr诺p Plaid Cymru, dywedodd y Cadeirydd Cai Larsen eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Dyfrig Siencyn.

鈥淗offai holl aelodau鈥檙 Gr诺p ddiolch o waelod calon i鈥檙 Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith a鈥檌 ymroddiad fel arweinydd dros y saith mlynedd ddiwethaf," meddai.

"Dymunwn yn dda iddo i鈥檙 dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu yn gynharach eleni am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol

Ddydd Gwener fe wnaeth pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd ymddiswyddo ar 么l i Mr Siencyn wrthod ymddiheuro yn wreiddiol i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden.

Ond ar yr un diwrnod fe wnaeth Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru "ymddiheuro yn ddiffuant" i'r dioddefwyr ac fe alwodd am ymchwiliad cyhoeddus.

Dywedodd y pedwar cynghorydd - Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker - mewn datganiad eu bod yn camu'n 么l o'r cabinet.

Roedd hynny, medden nhw, oherwydd "gwahaniaethau sylfaenol rhyngom a鈥檙 arweinyddiaeth yngl欧n 芒 sut i ddelio gyda鈥檙 hyn a wnaeth Foden a beth yw鈥檙 ffordd orau i fynd ati i ganfod beth yn union aeth o鈥檌 le".

Beth ydy'r cefndir?

Cafodd Dyfrig Siencyn ei gyfweld ar Newyddion S4C nos Iau 10 Hydref ar 么l i ragor o honiadau gael eu gwneud am y cyn-bennaeth a鈥檙 pedoffeil Neil Foden.

Fe gafodd Foden ei ddedfrydu yn gynharach eleni i 17 mlynedd yn y carchar am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Roedd Foden wedi bod yn bennaeth yn Ysgol Friars ym Mangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, y ddwy yng Ngwynedd.

Fe wnaeth rhaglen 大象传媒 Wales Investigates ddechrau Hydref ddatgelu y gallai Foden fod wedi cam-drin disgyblion am fwy na 40 mlynedd.

Mae dynes sy鈥檔 dweud iddi gael ei cham-drin fel plentyn gan Foden, wedi croesawu ymddiswyddiad Mr Siencyn.

Dywedodd y ddynes, wnaeth ei honiadau ar 大象传媒 Wales Investigates o dan yr enw Nia: 鈥淧an wrthododd Dyfrig Siencyn ymddiheuro i ni, y dioddefwyr, a gafodd eu cam-drin gan Neil Foden, roedd yn fethiant i gydnabod ein poen a鈥檔 dioddefaint.

"Arweiniodd hyn ymhellach at y tanseilio hyder a methiant oedd gennym eisoes yng Nghyngor Gwynedd.

"Rwy鈥檔 meddwl y gallaf siarad ar ran yr holl ddioddefwyr pan ddywedaf ein bod yn croesawu ymddiswyddiad Dyfrig Siencyn."

Mae Newyddion S4C hefyd ar ddeall bod ffigyrau blaenllaw o fewn Plaid Cymru wedi disgrifio sefyllfa Mr Siencyn fel un 鈥渁nghynaladwy鈥 dros y penwythnos.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cael cais am ymateb.

'Un g诺r drwg sydd yn y busnes yma - Foden'

Dywedodd Alun Ffred Jones, cyn-Arweinydd Cyngor Gwynedd, a chyn-Aelod Cynulliad (fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd) Arfon: 鈥淒wi鈥檔 credu bod o [Mr Siencyn] wedi gwneud y peth doeth dan yr amgylchiadau.

鈥'Da chi ddim eisiau bod yn arweinydd gr诺p sydd wedi ei rannu ac yn yr amgylchiadau dwi鈥檔 credu bod o wedi gwneud y peth iawn.

鈥淢ae o wedi bod yn arweinydd da iawn, yn llefarydd da iawn ar ran llywodraeth leol hefyd. All o ddal ei ben yn uchel dwi鈥檔 credu.鈥

Ychwanegodd: 鈥淸M]ae鈥檔 rhaid i ni gofio un peth - un g诺r drwg sydd yn y busnes yma a Neil Foden ydy hwnnw.

鈥淢ae yna ymchwiliad ond mae yna gyfrifoldeb r诺an ar y cyngor i fod yn hollol agored am yr hyn sydd wedi digwydd.

鈥淒oes dim dwywaith ym meddyliau鈥檙 cyhoedd mai y cyngor sydd ar fai ond y gwir yny ma' gan ysgolion erbyn hyn lawer iawn o annibyniaeth ac felly mae 'na gwestiynau i鈥檞 hateb gan y llywodraethwyr, uwch-d卯m yr ysgol ac wrth gwrs yn ehangach na hynny.

"Dwi鈥檔 gobeithio y bydd 'na ymchwiliad cyhoeddus."

'Angen hyfforddi cynghorwyr'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Helen Mary Jones, mae angen i gynghorwyr "ddeall eu cyfrifoldebau"

Dywedodd yr ymgyrchydd amddiffyn a diogelu plant, Helen Mary Jones fod y datblygiadau diweddaraf yn dangos bod "angen mwy o hyfforddiant ar gynghorwyr".

Ychwanegodd fod angen i gynghorwyr "ddeall eu cyfrifoldebau nhw yngl欧n ag amddiffyn plant yn eu hysgolion a鈥檙 sefyllfaoedd eraill ma鈥 nhw'n gyfrifol amdanyn nhw.

"Wrth gwrs ar swyddogion mae鈥檙 ddyletswydd i roi cyngor i'r cynghorwyr, ond y cynghorwyr yn y diwedd sy鈥檔 arwain y cyngor ac yn gwneud penderfyniadau.

"Byddwn i鈥檔 gweud falle bod y stori yma yn dangos bod isie hyfforddiant ar bob cynghorydd fel bod nhw鈥檔 deall eu cyfrifoldebau nhw a fel ma' nhw'n gorfod bod yn atebol am unrhyw gamgymeriadau ma'r cyngor wedi 'neud.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "bwysig fod pawb sy'n gyfrifol am wasanaethau addysg yn deall eu cyfrifoldebau o ran lles a diogelu" a bod "darparu hyfforddiant i aelodau etholedig yn fater i awdurdodau lleol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mater o amser" oedd yr ymddiswyddiad, meddai Elfyn Llwyd

Yn 么l cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, "mater o amser" oedd ymddiswyddiad Mr Siencyn.

"Mae鈥檔 bosib yn y diwedd ei fod o鈥檔 anorfod oherwydd pan nad oes 'na unfrydedd o fewn y cabinet mae鈥檔 mynd yn amhosib i redeg y Cyngor.

"Mater o amser mewn gwirionedd oedd hi felly. Mae o yn anffodus ond do'n i ddim yn gweld unrhyw ffordd arall o symud ymlaen.

"Mae o wedi cymryd y cam cywir, y cam dewr yn y sefyllfa yma," meddai.

Cyd-aelodau Plaid Cymru yn diolch

Mae gwleidyddion lleol wedi ymateb i ymddiswyddiad Mr Siencyn gan ddiolch iddo am ei wasanaeth dros y blynyddoedd.

Dywedodd Sian Gwenllian AS fod "Dyfrig wedi rhoi arweiniad cadarn i Gyngor Gwynedd mewn cyfnod o lymder mawr a heriau digynsail".

鈥淩wyf wedi cydweithio efo fo ers 2008 a gwn y bydd yn parhau i wneud ei orau dros y sir a dros Gymru. Pob dymuniad da Dyfrig.鈥

Dywedodd Liz Saville Roberts AS fod Dyfrig Siencyn yn "haeddu cael ei gofio fel arweinydd un o gynghorau mwyaf blaengar Cymru".

"Mi aeth i鈥檙 afael ag anghenion tai a phroblemau gormodedd o dai gwyliau," meddai.

Ategodd Mabon ap Gwynfor AS mai "pobl a chymunedau Gwynedd, eu lles a'u dyfodol oedd wrth wraidd pob dim yr oedd yn ei wneud".

Pynciau cysylltiedig