Hanner Marathon Caerdydd yn denu miloedd i'r brifddinas
- Cyhoeddwyd
1 o 5
Fe ddaeth miloedd i Gaerdydd ddydd Sul i redeg hanner marathon y brifddinas.
Yn 么l y trefnwyr, roedd dros 29,000 o bobl wedi cofrestru i redeg eleni - y nifer fwyaf yn hanes y digwyddiad.
Patrick Moisin o Kenya enillodd yng nghategori'r dynion gydag amser o 1:00:01, a Miriam Chebet - hefyd o Kenya - oedd y cyflymaf ymhlith y menywod, fe orffennodd hi gydag amser o 1:06:43.
Callum Hall ddaeth i'r brig ymhlith defnyddwyr cadeiriau olwyn (55:05) tra bod ei wraig, Jade Hall wedi gorffen yn ail (57:57).
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio bod disgwyl i'r ddinas fod yn hynod o brysur ddydd Sul, ac mae ymwelwyr yn cael eu hannog i gynllunio o flaen llaw.
Roedd y chwiorydd Lisa Price, 36, a Carly Parsons, 38, wrth eu boddau ar y llinell derfyn.
"Redais i tua phedwar munud yn gyflymach nag o'n i wedi ei obeithio," meddai Lisa.
Roedd Carly yn rhedeg er mwyn codi arian ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
"Mae'r achos yn un mor werthfawr," ychwanegodd.
Roedd James Clatworthy, 29 oed o Gaerdydd, yn codi arian ar gyfer elusen Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.
Cafodd driniaeth yno 15 mlynedd yn 么l pan yr oedd ganddo leucemia.
"Hebddyn nhw, fyddwn i wedi gorfod mynd i Lundain i gael triniaeth, yn bell o fy nheulu a'n ffrindiau," meddai.
"Ges i leucemia ddwywaith, felly dreuliais i gyfnodau hir yn yr ysbyty... Ro'n i yno am naw mis y tro cyntaf, a naw mis yr eildro, felly iddyn nhw mae'r diolch bo' fi'n gallu rhedeg hanner marathon heddiw."
Dim dyma'r tro cyntaf i Olivia Michael o Gastell-nedd, sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd, gwblhau'r hanner marathon yng Nghaerdydd.
"Doedd o ddim rhy ddrwg, roedd y tywydd yn iawn a nes i osod amser gorau newydd i fi'n hun.
"Dyma'r pumed tro i mi redeg y ras, ac mae 'na wastad awyrgylch neis yma yng Nghaerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023