'Gobeithio am Eisteddfod gystal 芒 Phontypridd yn Wrecsam'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2025 wedi dweud bod "y bwrlwm wedi dechrau'n barod" yn Wrecsam.
"Mae hon wedi bod mor llwyddiannus, mae rhywun bron yn gobeithio gallwn ni barhau hefo'r llwyddiant yna a dod 芒 'Steddfod gystal 芒 hon," meddai Llinos Roberts.
Ychwanegodd fod ganddi "d卯m da" o bobl yn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y gogledd-ddwyrain.
Wrth longyfarch criw Pontypridd am "wythnos wych," ychwanegodd bod gwersi i'w dysgu wrth feddwl am yr 诺yl nesaf.
- Cyhoeddwyd27 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
"Mae 'di bod yn arbrawf gwneud Eisteddfod yn y parc ac yn ymyl y dre'," meddai Ms Roberts.
"Dwi'n meddwl bod hi 'di bod yn arbrawf sy'n gweithio'n arbennig o dda."
Mae Ms Roberts yn dweud ei bod hi'n "teimlo'n bositif" wrth gymryd yr awenau gan Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Ychwanegodd fod cyfarfodydd yn digwydd er mwyn trafod syniadau o'r hyn fydd ar gael y flwyddyn nesaf.
Y gobaith, meddai, ydy cynnig Eisteddfod "gynhwysfawr" yn y gogledd, gan "efelychu" polisi Pontypridd o geisio denu siaradwyr newydd.
"Mae natur ieithyddol Wrecsam yn debyg iawn, iawn i'r ardal yma," meddai.
'Eisteddfod anodd i'w churo'
Ar y Maes ym Mhontypridd, mae meddyliau eisteddfodwyr hefyd nawr yn troi at Wrecsam.
"Mae hwn yn anodd i guro," meddai Nia a'i merch, Ffion, wrth fwynhau'r heulwen.
Mae'r ddwy yn bwriadu teithio i Wrecsam y flwyddyn nesaf, gyda Ffion yn ystyried mynd i Maes B gyda'i ffrindiau hefyd.
Dywedodd Roy o Abertawe bod Parc Ynysangharad wedi bod "yn wych" o ran ei hygyrchedd, gan gynnig gwersi i Eisteddfodau'r dyfodol.
"Mae'r parc yn ddelfrydol," meddai.
鈥淔i鈥檔 credu bod hi鈥檔 wers i bob eisteddfod sydd i ddod."
Mae Roy a'i wraig Heather yn edrych ymlaen at deithio i Wrecsam y flwyddyn nesaf, gan obeithio y bydd pethau yr un mor hawdd yno hefyd.
鈥淢ae wedi bod yn gr锚t," meddai Ioan o Landysul.
"Ma' digon o le 'ma, mae鈥檙 sioeau sydd wedi bod ar y llwyfannau yn gr锚t, mae鈥檙 bwyd yn ffein."
Mae llwyddiant eleni, meddai, wedi ei gyffroi ac mae'n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.
I Cai a'i deulu o Bontypridd, mae'r Eisteddfod eleni wedi bod yn destun balchder, yn enwedig oherwydd bod ei dad yn rhan o'r Orsedd.
"Mae鈥檔 ffantastig fod e鈥檔 lleol," meddai.
Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd Ryan Reynolds yn dod i鈥檙 Eisteddfod y flwyddyn nesaf
鈥淢ae o bach yn bell i fi fynd 芒鈥檙 plant, ond os fydda i鈥檔 gallu ffeindio fy ffordd yna fydda i鈥檔 mynd."
'Y byd yn gyfarwydd 芒 Wrecsam erbyn hyn'
Gyda blwyddyn gyfan i baratoi, mae'r sylw nawr yn troi at y criw sy'n trefnu'r digwyddiad yn Wrecsam.
"S'gynnon ni'm lleoliad i'n heisteddfod ni eto," meddai Llinos Roberts.
"Mi fyddan ni'n cyhoeddi lleoliad yr Eisteddfod ddechrau Hydref."
Er i'r Eisteddfod ymweld 芒 Wrecsam yn 2011, mae Llinos o'r farn bod y ddinas "wedi gweddnewid" ac mi fydd rhaid adlewyrchu hynny.
"Mae 'na lawer o fwrlwm yn Wrecsam. Mae 'na lawer o ddiddordeb yn Wrecsam. Mae pawb yn gwybod lle mae Wrecsam ar hyd y byd i gyd erbyn hyn."
Er i Llinos gadarnhau bod yr Eisteddfod yn cydweithio gyda'r clwb p锚l-droed yn y ddinas, doedd hi methu cadarnhau presenoldeb Ryan Reynolds a Rob McElhenney flwyddyn nesaf.
"Mae'n dibynnu os ydy Deadpool yn ffilmio ai peidio, yn dydy!?"