Neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2024

Disgrifiad o'r llun, Roedd y beirniaid Marlyn Samuel, Catrin Beard a Jerry Hunter yn "gwbl gyt没n bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da'r gystadleuaeth"

Doedd neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Y dasg oedd creu nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, gyda medal a 拢5,000 yn wobr.

Y beirniaid oedd Jerry Hunter, Catrin Beard a Marlyn Samuel.

Dywedodd Ms Samuel ei bod wedi cael ei "siomi wrth ddarllen pob un" o'r pum nofel a ddaeth i law eleni.

"Roedd y tri ohonom yn gwbl gyt没n bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da鈥檙 gystadleuaeth," meddai.

Dyma'r tro cyntaf ers Eisteddfod M么n yn 2017 i'r gystadleuaeth beidio cyhoeddi enillydd.

Alun Ffred Jones oedd yr enillydd y llynedd am ei nofel 'Gwynt y Dwyrain' - mewn cystadleuaeth lle roedd 10 wedi ymgeisio.

Disgrifiad o'r fideo, Dim teilyngdod yn 'siom ofnadwy' medd y beirniaid

Yn ei feirniadaeth ysgrifenedig, dywedodd Jerry Hunter "fod atal y wobr yn destun siom i ddarllenwyr ffuglen Gymraeg, ond peidied neb 芒 digalonni".

鈥淵mddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml, ac er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae鈥檔 afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn," meddai.

"Yn hytrach na chwyno nad yw鈥檙 gystadleuaeth hon wedi esgor ar nofel newydd eleni, ewch yn syth at un o鈥檙 mannau hynny ar faes yr Eisteddfod sy鈥檔 gwerthu llyfrau - neu at eich siop lyfrau lleol - a phrynu nofel Gymraeg nad ydych wedi鈥檌 darllen," meddai Mr Hunter.

"Mae digon o ddewis ac mae鈥檙 dewis hwnnw鈥檔 destun diolch, pleser a balchder."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r enillydd wedi ennill y fedal yma a 拢5,000

Ychwanegodd Catrin Beard ei bod hi'n "deg bod y disgwyliadau鈥檔 uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw鈥檔 uwch fyth".

鈥淣id ar chwarae bach mae ysgrifennu nofel, ac fel un sydd 芒 sawl 鈥楶ennod Un鈥 yn y dr么r, allaf i wneud dim ond edmygu dyfalbarhad a dycnwch y rheiny sy鈥檔 dwyn y maen i鈥檙 wal.

"Ond mae mwy i ysgrifennu nofel na鈥檙 drafft cyntaf," meddai, gan ddweud ei bod yn "siomedig" mai "egin nofelau a ddaeth i law".

"Oes, mae yma addewid, gwreiddioldeb, difyrrwch ac enghreifftiau o ysgrifennu godidog, ond does dim un o鈥檙 cyfrolau yn agos at fod yn barod i鈥檞 chyhoeddi."

'Cael fy siomi wrth ddarllen pob un'

Roedd Marlyn Samuel hefyd yn siomedig nad oedd modd gwobrwyo eleni.

Dywedodd: "Ro鈥檔 i鈥檔 edrych ymlaen at ddarllen stor茂au difyr a diddan: nofelau a fyddai鈥檔 cydio yn fy nychymyg ac yn dal fy niddordeb efo cymeriadau diddorol a chredadwy.

"Yn anffodus, cael fy siomi wnes i wrth ddarllen pob un ohonynt."

Ychwanegodd: "Gwn ei bod yn siom i ddarllenwyr a llyfrwerthwyr nad oes neb wedi dod i鈥檙 brig eleni.

"Fodd bynnag, roedd y tri ohonom yn gwbl gyt没n bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da鈥檙 gystadleuaeth.鈥

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap 大象传媒 Cymru Fyw ar neu .