ý

'Gwrth-ddweud chwerthinllyd' gan Morgan am ariannu Cymru - Plaid

Keir Starmer ac Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Eluned Morgan (dde) i wthio Keir Starmer (ch) i gyflwyno model gyllido newydd ar gyfer Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi'i chyhuddo o "wrth-ddweud chwerthinllyd" am y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu.

Roedd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Eluned Morgan yn gofyn a fyddai’n gwthio Prif Weinidog y DU, Keir Starmer i gyflwyno model newydd i gyfrifo cyllid.

Mae plaid Mr ap Iorwerth o’r farn bod y fformiwla bresennol - Fformiwla Barnett - yn rhoi Cymru dan anfantais ac eisiau ei dileu.

Mewn ymateb i’w lythyr dywedodd Ms Morgan y byddai’n "pwyso am agwedd deg" ar sut mae’r system bresennol yn cael ei gweithredu.

'Biliynau yn ddyledus'

Mae ý Cymru wedi gweld copïau o'r ddau lythyr Saesneg, gafodd eu cyfnewid rhwng y ddau arweinydd fis diwethaf.

Mae gwariant cyhoeddus yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio Fformiwla Barnett, sy'n dyddio o'r 1970au.

Mae’n dyrannu cyllid i Gymru yn seiliedig ar wariant yn Lloegr mewn meysydd fel iechyd, addysg a materion gwledig, sydd yng Nghymru yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion Cymru yn derbyn cyfran o gyllid Lloegr yn seiliedig ar faint poblogaeth Cymru.

Ond mae dadl wedi bod ers tro y dylid rhoi mwy o bwys ar anghenion poblogaeth Cymru pan fydd y cyfrifiadau’n cael eu gwneud.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "model ariannu teg newydd i Gymru" meddai Rhun ap Iorwerth

Yn ei lythyr, mae Mr ap Iorwerth yn dweud: “Rydych chi eisoes wedi dweud y bydd yn rhaid i wasanaethau gael eu dadflaenoriaethu yn 'y cyfnod ariannol anodd hwn', ond byddwn yn ddiolchgar am gadarnhad er mwyn mynd i’r afael â thangyllido y byddwch yn mynd ar drywydd model ariannu teg newydd i Gymru ochr yn ochr â’r symiau canlyniadol sy’n ddyledus i ni o’r prosiect rheilffyrdd HS2 gwerth biliynau o bunnoedd.”

Ychwanega: “Fel y dywedais yn y siambr adeg eich enwebiad llwyddiannus, mae’r heriau sy’n wynebu llywodraeth Lafur Cymru yn sylweddol.

"Mae wedi bod yn galonogol gweld y Senedd yn ddiweddar yn pleidleisio o blaid symiau canlyniadol HS2 a datganoli Ystadau’r Goron – dau gam a fyddai’n rhyddhau arian sylweddol i helpu i oresgyn yr heriau hyn.”

Ni dderbyniodd Cymru unrhyw gyllid canlyniadol ar gyfer HS2 er nad oes unrhyw ran o’r trac yng Nghymru, gan ei fod wedi’i ddynodi’n brosiect Cymru a Lloegr.

Mae Ystad y Goron yn rheoli gwely'r môr sy'n hanfodol ar gyfer datblygiadau gwynt yn y môr a allai fod yn broffidiol.

Mae elw o brydlesu gwely'r môr yn cael ei dalu i'r Trysorlys, sy'n rhoi cyfran i'r frenhiniaeth.

Yn yr Alban mae Ystad y Goron wedi'i datganoli, sy'n golygu bod refeniw net yn cael ei ddyrannu'n lleol.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan y bydd yn "pwyso am agwedd deg at gymhwyso fformiwla Barnett"

Wrth ymateb i Mr ap Iorwerth, ysgrifennodd y prif weinidog: “Mewn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ein bod yn awyddus i unioni’r annhegwch sy’n parhau i fodoli o Lywodraeth flaenorol y DU, ac i wneud y mwyaf o fuddsoddiad seilwaith cyfalaf i gefnogi'r economi.

"Byddwn yn pwyso am agwedd deg at gymhwyso fformiwla Barnett, ac adolygiad o’r gallu i gymharu â’r Adran Drafnidiaeth, a phrosesau penderfyniadau buddsoddi Network Rail.”

Ynghylch datganoli Ystad y Goron, dywedodd Eluned Morgan: "Mae ein rhaglen lywodraethu a’i hymrwymiad i ddatganoli Ystad y Goron yn parhau heb newid.

"Mae swyddogion wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gyda’u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ac Ystad y Goron i fwrw ymlaen â’n blaenoriaethau ynni yng Nghymru.

"Rwy’n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â datganoli Ystad y Goron i Gymru gan gynnwys deall yr adnoddau y byddai eu hangen arnom i gynnal y gwaith o gyflawni swyddogaethau Ystad y Goron yng Nghymru.”

'Chwerthinllyd'

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd Mr ap Iorwerth: “Mae unrhyw syniad y byddai cael dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio o fudd i Gymru wedi’i chwythu allan o’r dŵr.”

Ychwanegodd: “Mae’r syniad y gellir mabwysiadu 'dull teg' tuag at gymhwyso Fformiwla Barnett fel yr awgrymwyd gan brif weinidog newydd Llafur yn wrth-ddweud chwerthinllyd o ran termau.

“Mae tu hwnt i ddeall pam mae’r blaid Lafur yn parhau i fod yn gaeth i fformiwla ariannu y maen nhw eu hunain wedi addo ei dileu yn y gorffennol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw.

Nôl yn 2017, yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno, dywedodd y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, wrth ý Cymru y byddai Fformiwla Barnett yn cael ei dileu.

Roedd maniffesto etholiadol y blaid ar y pryd yn addo “diwygio tymor hir o sut mae’r DU yn dyrannu gwariant cyhoeddus i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion gwahanol rannau o’n gwlad ac nad oes unrhyw wlad neu ranbarth o’r DU dan anfantais annheg.”

Roedd maniffesto diweddar Llafur ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024 yn cydnabod bod “fframwaith cyllidol Cymru wedi dyddio.”

Aeth ymlaen i ddweud pe bai’r blaid yn ennill yr etholiad ei bod “wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y fframwaith yn rhoi gwerth am arian gyda dwy lywodraeth Lafur wedi ymrwymo i gyfrifoldeb cyllidol.”