大象传媒

'Torri calon' - dim lle mewn ysgol Gymraeg ym Mhowys

Lowri, Dylan Wyn, Lluan ac Ynyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ynyr, 4 oed, o Groesoswallt wedi methu 芒 chael lle yn yr ysgol Gymraeg leol

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu o Groesoswallt yn cyhuddo Cyngor Powys o fethu 芒 dilyn eu meini prawf eu hunain ar 么l i'r cyngor wrthod rhoi lle i鈥檞 mab yn yr ysgol gynradd Gymraeg agosaf.

Mae Lowri Jones yn dweud fod penderfyniad y cyngor i beidio 芒 chynnig lle i鈥檞 mab yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant wedi "torri ei chalon".

Mae'r Cyngor yn dweud eu bod wedi dilyn "trefniadau a chod derbyn ysgolion Llywodraeth Cymru".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ynyr yn mynychu'r cylch feithrin Gymraeg ar hyn o bryd

Roedd Lowri a Dylan Wyn Jones, o Groesoswallt yn Sir Amwythig, wedi gobeithio y byddai eu mab bach, Ynyr, 4 oed, yn cael lle yn Ysgol Gymraeg Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Dyma'r ysgol Gymraeg agosaf iddyn nhw.

Mae Lluan, eu merch 6 oed, eisoes yn ddisgybl yno, ac mae Ynyr yn mynychu鈥檙 Cylch Meithrin yno, ac wedi bod yn mynd drwy gyfnod pontio i baratoi at fis Medi.

Ond mae'r teulu nawr ar ddeall nad oes lle iddo fis Medi.

Dywedodd y teulu wrth raglen Dros Frecwast fod 'na "dri o blant wedi cael eu gwrthod ond Ynyr ydy鈥檙 unig un sydd eisiau鈥檙 addysg drwy gyfrwng y Gymraeg".

Mae Ynyr yn mynychu'r Cylch Meithrin ar hyn o bryd, ond gan nad oes lle yn yr ysgol ni fydd yn cael mynd i'r dosbarth derbyn fis Medi.

Mae'r teulu yn dweud eu bod yn poeni bod y llythyr gwrthod yn dweud bod angen iddyn nhw ofyn i Sir Amwythig am le mewn ysgol.

A yw'r cyngor yn dilyn eu meini prawf?

Disgrifiad,

'Anghywir i wrthod lle i'm mab mewn ysgol Gymraeg'

Mae siroedd Powys a'r Amwythig wedi bod yn cydweithio ar addysg Gymraeg ers y 1980au.

Yn 么l Lowri Jones mae lle i holi a yw'r cyngor wedi dilyn eu meini prawf eu hunain wrth drafod pa ddisgyblion ddylai gael blaenoriaeth.

"Fel rhan o鈥檙 meini prawf, mae Powys wedi edrych arnyn nhw, mae 'na un yn dweud bod 'angen cymdeithasol penodol' yn rhywbeth maen nhw鈥檔 ystyried.

"Dwi鈥檔 teimlo fod gan Ynyr angen cymdeithasol penodol i gael addysg cyfrwng Cymraeg. Dydy hynny heb gael ei ystyried," meddai.

Dywed Lowri mai Llanrhaeadr yw'r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf i鈥檞 cartref yng Nghroesoswallt.

"Dydi iaith a diwylliant ddim yn parchu ffin ar fap, ac ydy mi ydan ni ochor Lloegr i鈥檙 ffin rhwng Cymru a Lloegr, ond o ran ethos, diwylliant ac iaith y lle, mae鈥檔 naturiol Gymreig."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Llanrheadr yw'r Ysgol Gymraeg agosaf i lle mae'r teulu yn byw

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys fod "pob cynnig ar gyfer lleoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Medi 2024 wedi eu gwneud yn unol 芒'r trefniadau derbyn cyhoeddedig a Chod Derbyn Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Dywedon nhw "pan fo nifer y ceisiadau a dderbynnir yn fwy na鈥檙 nifer derbyniadau ar gyfer disgyblion" eu bod yn defnyddio "meini prawf goralw" a bod llefydd yn cael eu cynnig yn dilyn hynny.

"Roedd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer derbyniadau i Lanrhaeadr-ym-Mochnant ar gyfer Medi 2024 yn fwy na'u rhif derbyn disgyblion o 15."

'Ddim eisiau i 'mhlant fod fel fi'

Mae Dylan Wyn Jones, tad Ynyr, sy鈥檔 ddi-Gymraeg, wedi ei eni a'i fagu yng Nghroesoswallt.

Mae'n dweud ei fod e wedi ei amddifadu o'r iaith gan na gafodd y cyfle i gael addysg Gymraeg.

Dywedodd: "Cymraeg oedd fy iaith gyntaf. Ond yng Nghroesoswallt yn y 70au doedd dim addysg Gymraeg ddim yn opsiwn."

Aeth ymlaen i ddweud fod hyn wedi achosi iddo "golli'r hyder i siarad yr iaith. Petai addysg Gymraeg wedi bod ar gael i fi bydde hynny ddim yn broblem.

"Dwi ddim eisiau i 'mhlant wynebu'r un sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dylan Wyn, tad Ynyr, yn gobeithio na fydd ei fab yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg

Mewn llythyr at y teulu, mae Cyngor Powys yn dweud eu bod wedi derbyn 18 o geisiadau ar gyfer y 15 o lefydd gwag a'u bod wedi gwneud eu gorau glas "i geisio ystyried pob cais yn ffafriol, ond yn anffodus mae鈥檙 ysgol yn llawn".

Erbyn hyn mae Dylan Wyn a Lowri Jones yn dweud eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad ac wedi cychwyn deiseb yn gofyn i'r cyngor ailystyried .

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "gan rieni yr hawl i fynegi eu bod yn ffafrio ysgol benodol i鈥檞 plentyn ei mynychu ac, os oes llefydd ar gael yno, rhaid i鈥檙 awdurdodau gydymffurfio 芒鈥檙 dymuniad hwnnw.

鈥淢ae gan rieni yr hawl hefyd i apelio yn erbyn penderfyniad gan awdurdod sy'n peidio 芒 chynnig lle i鈥檞 plentyn yn eu dewis o ysgol.鈥

Pynciau cysylltiedig