Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd am stormydd o daranau mewn grym yng Nghymru
Mae disgwyl taranau, cenllysg a chawodydd trwm yn rhannau o Gymru o fewn yr oriau nesaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau yn siroedd Dinbych, Y Fflint, Wrecsam a Phowys.
Fe fydd mewn grym rhwng 12:00 a 20:00 ddydd Sul.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd, trafferthion i deithwyr, a thoriadau i gyflenwadau trydan.
Mae'r arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai "mellt niferus a chynllysg, yn arbennig yn nwyrain [ardal y rhybudd tywydd" achosi problemau.
Ychwanegodd y rhybudd bod yna "siawns fach" o lifogydd yn taro cartrefi a busnesau'n gyflym a "difrod i rai adeiladau yn sgil d诺r llifogydd a mellt".