Sgandal gwaed: Galw am 'ganllawiau clir' am iawndal
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r 400 o bobl o Gymru sy鈥檔 ymwybodol eu bod wedi derbyn gwaed heintiedig, eisiau gweld canllawiau clir ar sut y bydd iawndal yn cael ei dalu i ddioddefwyr a'u teuluoedd.
Fe wnaeth David Thomas, sydd 芒 hemoffilia, ddarganfod iddo gael ei heintio 芒 hepatitis c yn 10 oed, 13 mlynedd yn ddiweddarach.
Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus i鈥檙 sgandal gwaed heintiedig, Syr Brian Langstaff, y dylai dioddefwyr dderbyn 鈥渋awndal priodol鈥.
Mae disgwyl rhagor o fanylion ddydd Mawrth ar addewid Llywodraeth y DU i dalu 鈥渋awndal cynhwysfawr鈥 i鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 heintio a鈥檜 teuluoedd.
'Croes i enaid yr adroddiad'
Fe wnaeth Mr Thomas ddarganfod fod ganddo hepatitis C yn 1993, dros ddegawd ar 么l iddo dderbyn gwaed heintiedig fel plentyn.
Mae bellach yn glir o鈥檙 afiechyd hynny, ond yn 2009 fe dderbyniodd y newyddion fod ganddo glefyd yr afu.
Dywedodd Mr Thomas wrth 大象传媒 Cymru yn 2017 bod hanes o hemoffilia o fewn ei deulu a bod ei gefnder, Lee, hefyd wedi鈥檌 heintio 芒 hepatitis C yn blentyn.
Bu farw Lee o fethiant yr afu yn y pendraw.
Dywedodd Mr Thomas ei fod "am weld canllawiau clir ar sut y bydd iawndal yn cael ei rhannu ac a fydd yna brawf i benderfynu pwy sy鈥檔 derbyn iawndal".
Aeth ymlaen i ddweud mai'r "teimlad yw bod y llywodraeth am sefydlu bwrdd i fonitro鈥檙 iawndal ac mae鈥檔 mynd i fod yn anodd ceisio apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau鈥檙 bwrdd".
"Mi allai hynny fod yn groes i enaid adroddiad Syr Brian [Langstaff]."
Yn 2022, fe wnaeth adroddiad annibynnol gan Syr Robert Francis argymell y dylai iawndal gael ei dalu i ddioddefwyr, beth bynnag fo canfyddiadau鈥檙 ymchwiliad cyhoeddus.
Dywedodd Llywodraeth y DU ar y pryd eu bod yn derbyn yr achos foesol dros iawndal, gan roi 拢100,000 i 4,000 o bobl a gafodd eu heintio.
Yn Nh欧鈥檙 Cyffredin ddydd Llun dywedodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak: 鈥淏yddwn yn talu iawndal cynhwysfawr i鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 heintio a鈥檜 teuluoedd oherwydd y sgandal yma, gan dderbyn yr egwyddorion a gafodd eu hargymell gan yr ymchwiliad sy鈥檔 adeiladu ar waith Syr Robert Francis.
鈥淏eth bynnag yw鈥檙 gost i gyflawni hyn, fe fyddwn yn ei dalu.鈥
Dywedodd Tony Summers, a gollodd ei fab yn 2008, ei fod eisiau gweld unrhyw iawndal yn mynd at weddw a merch ei fab.
Bu farw Paul Summers yn 44 oed ar 么l iddo gael HIV wedi iddo dderbyn gwaed heintiedig yn ei arddegau.
鈥淐yn belled ag y mae rhieni, brodyr a chwiorydd yn y cwestiwn, do鈥檔 i ddim yn ymwybodol bod iawndal wedi cael ei ystyried,鈥 meddai Mr Summers.
"Fy mhrif bryder oedd darganfod pwy oedd ar fai, pwy achosodd y problemau a sicrhau nad yw unrhywbeth tebyg yn digwydd eto."
Dywedodd yr aelod cabinet dros iechyd, Eluned Morgan, y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio 芒 Llywodraeth y DU i sicrhau bod pobl o Gymru a鈥檜 teuluoedd yn cael eu had-dalu yn unol ag adroddiad interim yr ymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai
- Cyhoeddwyd20 Mai
- Cyhoeddwyd14 Ebrill