大象传媒

Y meddyg sy'n asesu anafiadau i'r pen yng ngemau rygbi Cymru

Dr Gareth Lloyd Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Gareth Lloyd Jones

  • Cyhoeddwyd

Efallai nad ydi Gareth Lloyd Jones yn enw adnabyddus i gefnogwyr rygbi, ond mae ganddo r么l bwysig sy鈥檔 gallu effeithio gemau Cymru a'r chwaraewyr ar y cae.

Y fo ydi鈥檙 meddyg sy鈥檔 asesu anafiadau pen mewn nifer o gemau rhyngwladol; pwnc sydd wedi bod yn y penawdau yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod gemau mae o a鈥檌 d卯m yn cadw golwg am unrhyw chwaraewr sy鈥檔 cael cnoc i鈥檙 pen ac yn gofyn iddyn nhw ddod oddi ar y cae i gael profion os oes angen 鈥 a pheidio mynd yn 么l ymlaen os ydyn nhw wedi eu hanafu.

'Bod yn rhesymol a saff'

Ar 么l gyrfa fel meddyg teulu yng Nghwm Gwendraeth, bu Dr Gareth Lloyd Jones yn gweithio i dimau鈥檙 Gweilch a Chaerdydd a th卯m Cymru dan 20, ac yn ddiweddar derbyniodd yr MBE am ei wasanaeth i feddygaeth o fewn y byd chwaraeon.

Mae ganddo ddiddordeb mewn rygbi ers dyddiau ei fagwraeth ym Mangor ac un fu鈥檔 cyd-chwarae gydag o yn nh卯m yr ysgol ydi鈥檙 darlledwr Dewi Llwyd, fu鈥檔 ei holi ar raglen Radio Cymru Y Meddyg Rygbi am ei waith yn ystod gemau rhyngwladol Cymru.

鈥淒wi yn y twnnel efo sgrin o鈥檓 mlaen i ac iPad ac mae tua 20 o gamer芒u efo angles gwahanol,鈥 meddai鈥檙 Dr Gareth Lloyd Jones. 鈥淲edyn mae 鈥榥a technician gyda ni yn y 鈥榮tafell feddygol a meddyg arall.

鈥淥s ydyn nhw wedi gweld rhywbeth ar unrhyw angle ma鈥 nhw鈥檔 teimlo dylwn i gael lwc arno, maen nhw鈥檔 gyrru clip i fi yn y twnnel. Tra mae hynny鈥檔 digwydd dwi鈥檔 cadw llygad [ar y g锚m] yn fyw - os yda chi鈥檔 canolbwyntio ar be鈥 sydd falle wedi digwydd 鈥榙a chi鈥檔 colli allan be鈥 sydd actually yn digwydd yn ystod y g锚m, felly mae lot o glipiau yn mynd a dod yn gyson.

鈥淢ae鈥檔 rhaid i fi fod yn ofalus mod i ddim yn pigo pob peth. Mae 鈥榥a bosibilrwydd i guriad i鈥檙 pen ddigwydd bob pum munud a ma鈥 rhaid bod yn rhesymol ond hefyd bod yn saff 鈥 neu mor saff 芒 phosib mewn g锚m fel hyn.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wrth i rygbi ddod yn g锚m fwy corfforol, mae anafiadau i ardal y pen wedi dod o dan y chwyddwydr

Mae cyfleusterau tebyg i adran brys ysbyty yng nghrombil Stadiwm y Principality, meddai, ac mae ganddo wybodaeth feddygol berthnasol am bob chwaraewr 鈥 er enghraifft eu pwysau, hanes anafiadau pen yn ystod eu gyrfa a sut maen nhw鈥檔 ymateb i wahanol brofion pan maen nhw鈥檔 holliach.

Unwaith mae鈥檙 t卯m yn amau bod rhywun wedi cael anaf i鈥檞 pen, maen nhw鈥檔 gofyn i鈥檙 chwaraewr ddod oddi ar y cae i gael archwiliad yn y 'stafell feddygol 鈥 ac mae鈥檔 ras yn erbyn y cloc.

Deuddeg munud i asesu

鈥淢ae dipyn o ffordd i gerdded [i鈥檙 'stafell feddygol] a dim ond 12 munud sydd geno ni i gwblhau'r system o asesu,鈥 meddai.

Immediate memory ydi鈥檙 gair official. Fydda ni鈥檔 rhoi 10 enw iddyn nhw ac ar 么l i fi orffen rhoi鈥檙 10 enw fydda ni鈥檔 gofyn iddyn nhw ddweud faint o鈥檙 10 ma鈥 nhw鈥檔 cofio. Fyddwn ni鈥檔 gwneud hynny dair gwaith ac wedyn y step nesa' ydi gofyn iddyn nhw gofio ffigurau a ma鈥 hwnnw鈥檔 cael ei gymharu efo be鈥 yda ni鈥檔 gwybod amdanyn nhw ar ddechrau鈥檙 season.

鈥淐ymharu nhw yn erbyn eu hunain 'da ni鈥檔 neud dim yn erbyn ffigurau rhywun arall.

鈥淲edyn 鈥榙a ni鈥檔 gwneud test i falansio... ar un goes, dwy goes, cau llygaid, ac wedyn mae 鈥榥a gyfnod o bum munud yn gorfod mynd heibio i fi ofyn iddyn nhw o鈥檙 10 gair nes i ofyn iddyn nhw鈥檔 gynharach faint maen nhw鈥檔 cofio nawr 鈥 be鈥 maen nhw鈥檔 ei alw鈥檔 delayed memory.

鈥淢ae鈥檔 swnio鈥檔 weddol syml ond pan mae 'na gerdded o鈥檙 cae a gadael iddyn nhw wybod be鈥 ydi canlyniad y broses mae 12 munud yn mynd yn gyflym iawn.鈥

Ar 么l i鈥檙 12 munud fynd heibio, chaiff y chwaraewr ddim mynd yn 么l ar y cae waeth beth ydi鈥檙 canlyniad y profion.

Y meddyg sy鈥檔 gwneud y r么l yma ar ochr y cae sydd efo鈥檙 penderfyniad terfynol yngl欧n ag a ddylai chwaraewr ail ymuno 芒'r g锚m neu beidio 鈥 ond yn 么l Dr Gareth Lloyd Jones ar 么l gwneud y profion mae meddygon y timau fel arfer yn cytuno efo鈥檙 penderfyniad, er nad ydi鈥檙 chwaraewr bob tro鈥檔 rhy hapus.

Os ydi chwaraewr wedi cael anaf i鈥檙 pen mae鈥檔 rhaid cael profion ychwanegol yn y dyddiau wedi鈥檙 anaf, ac mae鈥檔 rhaid dod 'n么l i chwarae yn raddol, gyda 12 diwrnod o leiaf yn mynd heibio cyn cymryd rhan mewn g锚m.

Achos llys ac ymchwil pellach

Mae sylw mawr wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yngl欧n 芒 sut effaith mae cyfergyd ac ergydion cyson i鈥檙 pen yn ei gael ar iechyd.

Ar hyn o bryd mae nifer o gyn-chwaraewyr yn erlyn rhai o'r cyrff sy鈥檔 llywodraethu鈥檙 gamp - Rugby Football Union (RFU), Undeb Rygbi Cymru a World Rugby - am fethiant honedig i'w hamddiffyn rhag y risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen. Mae'r tri awdurdod wedi dweud eu bod bob tro yn ymdrechu i sicrhau diogelwch chwaraewyr ac yn dilyn y dystiolaeth wyddonol.

Yn 么l Dr Gareth Lloyd Jones fe fydd ymchwil pellach yn arwain at fwy o ddealltwriaeth sy鈥檔 si诺r o gael effaith ar y g锚m, ond ar hyn o bryd mae o鈥檙 farn bod mwy o fanteision nag anfanteision i chwarae鈥檙 gamp.

Meddai: 鈥淢ae lot o bethau mwy positif efo exercise na risg o rywbeth difrifol ddigwydd mewn unrhyw g锚m ond mae 鈥榥a risg i bob peth 鈥榙a ni鈥檔 wneud.

So cael y balans a dwi鈥檔 meddwl efo chwarae rygbi, mae鈥檙 balans yn tipio ychydig bach i un ffordd mwy nag oedd o ryw 10 mlynedd ond dwi鈥檔 hapus ac yn gyfforddus bod y balans o chwarae ychydig bach yn well na pheidio chwarae o gwbl.鈥

Pynciau cysylltiedig