A470: Arestio person yn dilyn marwolaeth beiciwr modur

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 ger Y Bontnewydd-ar-Wy

Mae person wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth beiciwr modur mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal ger Y Bontnewydd-ar-Wy tua 16:50 ddydd Gwener.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn rhoi cefnogaeth i deulu'r dyn 60 oed a fu farw.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae un person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad."

Roedd y ffordd ar gau am rai oriau wrth i'r heddlu gynnal ymholiadau wedi'r gwrthdrawiad.

Mae'r llu eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A470 rhwng Y Bontnewydd-ar-Wy a Llanwrthwl tua'r un pryd, a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd mewn sefyllfa i gynnig lluniau dashcam.