大象传媒

Teyrnged i ddyn fu farw ar yr M4 yn Sir G芒r

Stephen AbbottFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Stephen Abbott mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ddydd Llun diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn a fu farw ar yr M4 yn Sir G芒r yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Stephen Abbott, 56, mewn gwrthdrawiad gyda lori oedd ddim yn symud ar y ffordd rhwng Hendy a Phont Abraham ddydd Llun, 18 Mawrth.

Dywedodd ei deulu: "Roedd Steve yn gymeriad anferth a oedd yn adnabyddus yn lleol a thrwy ei waith gyda gr诺p Bar 44, am dros 20 mlynedd yn y Bont-faen ac yn ddiweddarach yn Parador, Caerdydd.

"Wedi'i fagu ym Mhorthcawl, bu'n byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Sir Gaerfyrddin.

"Bydd ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn ei golli'n fawr iawn.

"Mae ei farwolaeth sydyn wedi ein gadael yn dorcalonnus, a gofynnwn i unrhyw un a all helpu鈥檙 heddlu gyda鈥檜 hymholiadau i wneud hynny.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd teulu Mr Abbott eu bod yn "dorcalonnus" yn dilyn ei farwolaeth sydyn

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn parhau gyda'u hymholiadau i'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd tua 23:20.

Yn 么l y llu, fe wnaeth Mr Abbott adael ei d欧 yng Ngorslas yn ei gar Kia Cee'd llwyd/glas tua 21:45 cyn gwneud ei ffordd ar yr M4 ac yna heibio Hendy, Pontarddulais a Pontlliw.

Trodd Mr Abbott yn 么l wedyn tuag at Bont Abraham i ailymuno 芒'r M4 cyn iddo daro'r lori.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig