Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth yn addo taliadau 拢1,000 wedi llifogydd Storm Bert
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo taliadau o 拢1,000 i鈥檙 rhai heb yswiriant, a 拢500 i鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 hyswirio, ar 么l i effeithiau Storm Bert achosi difrod i gartrefi a busnesau dros y penwythnos.
Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan hefyd wedi wynebu galwadau gan Blaid Cymru am fwy o arian ar gyfer diogelwch tomenni glo gan lywodraeth Lafur y DU yn dilyn y tirlithriad yng Nghwmtyleri.
Ond yn y Senedd dywedodd y prif weinidog y byddai鈥檔 鈥渁nodd鈥 gwario mwy na鈥檙 拢25m roedd hi wedi gofyn amdano.
Dywedodd ei bod yn "hyderus" y byddai Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer yn darparu mwy o arian.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cyhoeddi y bydd 拢1,000 ar gael bob cartref neu fusnes sydd wedi eu heffeithio yn y sir honno.
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies wedi dweud bod o leiaf 433 o gartrefi wedi profi llifogydd yn sgil Storm Bert.
Beirniadodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru y 拢25m a addawyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer diogelwch tomenni glo.
Mae amcangyfrifon, meddai, yn awgrymu y gallai gostio 拢600m dros 10 i 15 mlynedd.
鈥淢ae angen eu gwneud yn ddiogel ac ar frys,鈥 meddai.
Dywedodd Eluned Morgan fod dim arian wedi dod gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol "ers pedair blynedd".
Dywedodd ei bod yn "falch iawn bod y llywodraeth Lafur gyntaf wedi ateb ein cais am 拢25m, sef yr hyn y gofynnwyd amdano, oherwydd rydym yn cydnabod bod hwn yn brosiect 10 i 15 mlynedd".
Newid hinsawdd yn 'cyflymu'
Yn y cyfamser, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio bod "angen i ni i gyd newid ac addasu i wneud ein hunain mor gydnerth 芒 phosibl" i effeithiau newid hinsawdd.
Dywedodd Katie Davies ar ran CNC: 鈥淩ydyn ni鈥檔 gwybod bod llawer o gymunedau鈥檔 gyfarwydd iawn 芒 llifogydd, ac y bydd y perygl hwnnw鈥檔 cynyddu i eraill yn y dyfodol hefyd wrth i newid hinsawdd gyflymu.
"Bydd angen i ni i gyd newid ac addasu i wneud ein hunain mor gydnerth 芒 phosibl i'r effeithiau hynny.
"Yn y tymor byr a鈥檙 tymor hir, rydym yn parhau鈥檔 benderfynol o weithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 llywodraeth, awdurdodau rheoli perygl llifogydd eraill a chymunedau ledled Cymru i adeiladu鈥檙 gwytnwch hwnnw a gwella ein parodrwydd i fynd i鈥檙 afael 芒 risgiau llifogydd a鈥檙 argyfwng hinsawdd ar y cyd."
Dywedodd Eluned Morgan hefyd y byddai鈥檔 ystyried y mater o rybuddion llifogydd yn dilyn cwynion am rybuddion a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a鈥檙 Swyddfa Dywydd.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, pe bai "rhybudd mwy, yna fe allai mwy o fesurau ataliol fod wedi eu rhoi ar waith".
Adleisiodd bryderon gan arweinydd cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan am rybudd tywydd melyn y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd mewn rhai o'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf ym Mhontypridd fod rhai trigolion dim ond wedi sylweddoli bod llifogydd "pan oedd cymdogion yn mynd o d欧 i d欧, yn curo ar y drysau".
Dywedodd Eluned Morgan fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 131 o rybuddion, "gan gynnwys dau rybudd llifogydd difrifol gyda dros 95,000 o negeseuon wedi'u hanfon", gan gyrraedd 46,000 o bobl.
"Felly fe wnaethon nhw gryn dipyn. Y cwestiwn yw, a allent fod wedi gwneud mwy?"