Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Abergele: JD Wetherspoon yn dwyn achos llys yn erbyn tafarn
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Mae un o gwmn茂au tafarndai mwyaf y DU yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn tafarn yng ngogledd Cymru wedi i arwyddion blaenorol awgrymu ei fod yn safle "Wetherspoons".
Roedd arwyddion y tu allan i dafarn Pen-y-Bont yn Abergele, sydd heb unrhyw gysylltiad 芒 JD Wetherspoon PLC, yn ei ddisgrifio fel tafarn 鈥淲etherspoons Limited鈥.
Yn gynharach eleni roedd y dafarn eisoes wedi sbarduno ffrae wedi iddi gael ei hailenwi fel 'The Bridge Head', gyda鈥檙 enw Cymraeg gwreiddiol ond yn ymddangos mewn ysgrifen llawer llai.
Ond ym mis Mai, bedwar mis yn unig ar 么l i鈥檙 arwyddion newydd ymddangos, fe gafon nhw eu disodli, gan adfer yr hen enw Cymraeg a dileu holl frandio 鈥淲etherspoons Limited鈥.
Dywedodd llefarydd ar ran JD Wetherspoon, sydd 芒 48 o dafarndai yng Nghymru a dros 800 ar draws y DU: 鈥淐awsom ein hysbysu bod tafarn yn Abergele yng Nghonwy yn defnyddio鈥檙 enw Wetherspoons Ltd ar eu harwyddion.
鈥淓r gwaethaf nifer o geisiadau i berchnogion y dafarn ddileu鈥檙 cyfeiriad at Wetherspoons, fe wnaethon nhw wrthod ac felly rydyn ni wedi gorfod cychwyn achos llys yn gofyn am orchymyn llys iddyn nhw wneud hynny.
"Rydym yn parhau i obeithio y bydd modd datrys y mater mewn modd cyfeillgar."
Ond dywedodd perchennog y dafarn, Michael Watts, nad oedd yn gyfrifol am osod yr arwyddion a'u bod wedi eu gosod gan "denant blaenorol sydd ddim bellach yn gysylltiedig 芒 Phen-y-Bont".
Ar 么l cael ei dderbyn i'r ysbyty ym mis Ionawr ac ildio'r gwaith o redeg y dafarn o ddydd i ddydd i'r tenant, wedi iddo ddychwelyd ychwanegodd Mr Watts ei fod wedi gwario "miloedd o bunnoedd" yn gosod arwyddion ac ail-sefydlu'r enw Cymraeg.
Ychwanegodd mai "cael enw Cymraeg ar dafarn mewn tref Gymreig yw'r peth iawn i'w wneud".
"Doeddwn i ddim eisiau i'r enw newid. Pen-y-Bont ydy o wedi bod ers 200 mlynedd," meddai wrth 大象传媒 Cymru.
鈥淩oeddwn i鈥檔 meddwl fy mod wedi clywed y diwethaf am hyn pan wnes i ei newid yn 么l i Pen-y-Bont, ond yn amlwg mae Wetherspoons yn dal i fynd ar fy 么l.
"Rwyf wedi gwneud fy ngorau glas i newid yr enw yn 么l. Rwyf wedi talu am arwyddion newydd ac eisiau siarad hefo Wetherspoons i geisio setlo hyn."