'Defnyddiwch diesel adnewyddadwy yng ngherbydau cyngor'
- Cyhoeddwyd
Mae sylfaenydd cwmni tanwydd Cymreig annibynnol wedi galw ar gynghorau Cymru i ddefnyddio diesel adnewyddadwy yn eu cerbydau er mwyn lleihau allyriadau carbon hyd at 90%.
Mae'n bosib defnyddio Diesel Adnewyddadwy neu Olew Llysiau Hydrodrin (HVO) mewn cerbydau diesel heb addasiadau, 聽ac mae'n cael ei dreialu fel tanwydd yn y cartref, ar 么l addasu boeleri olew.聽
Yn 么l Colin Owens mi ddylai cynghorau "arwain" trwy ddefnyddio'r tanwydd sydd yn cael ei gynhyrchu o olewau cnydau ac anifeiliaid ynghyd 芒 hen olew coginio.聽
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y gallai'r tanwydd gynnig "ffordd ratach o ddatgarboneiddio na defnyddio cerbydau trydan a hydrogen" er ei fod yn ddrytach na diesel.
Mae Carys Jones o gwmni Oil4Wales yn credu bod y tanwydd yn cynnig cyfle i osgoi'r gwariant cyfalaf sylweddol o brynu cerbydau trydan i gynghorau.聽
"Ar hyn o bryd ni'n gweld bod cynghorau yn buddsoddi tipyn mewn cerbydau trydanol a rhai yn mynd am gerbydau hydrogen," meddai.
"Mae gymaint o gost i brynu'r cerbydau newydd. Mae hynny yn haerllug o ddrud.
"Gyda diesel adnewyddadwy, does dim cost o'r fath. Allwch chi roi fe mewn i'r tanc sydd gyda chi yn barod a rhoi fe straight yn y cerbyd."
Mae'r tanwydd yn ddrytach, gyda HVO yn costio tua 拢1.94 y litr i ddefnyddwyr ar y ffordd o gymharu gyda 拢1.54 y litr ar gyfer diesel gwyn confensiynol yn 么l prisiau mis Awst 2023.
Yn Lloegr, mae cynghorau Caergrawnt a De Caergrawnt wedi penderfynu arbrofi gyda HVO yn lle diesel ar gyfer cerbydau sbwriel sydd wedi golygu gostyngiad o 90% mewn allyriadau carbon.聽
Galw i leihau'r dreth
Un sydd yn cefnogi'r alwad ydy Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake.
"Ar hyn o bryd, mae'r tanwydd yn fwy drud am fod y llywodraeth ganolog yn Llundain yn ei drethi llawer yn uwch na thanwyddau eraill.
"Un ateb fyddai gen i yw bod llywodraeth Prydain yn lleihau'r dreth ar ddiesel adnewyddadwy."
Yn 么l yr arbenigwr ynni, Dr Carol Bell, dyw'r tanwydd ddim yn cynnig atebion hir dymor.聽
"Rwy'n credu bod lle iddo achos mae'n defnyddio olewau sydd ddim yn dod o'r ddaear," dywedodd.
"Ond y broblem yw mae'n cynhyrchu carbon deuocsid o hyd wrth losgi felly dyw e ddim yn symud ni yn gyfan gwbl bant o roi carbon deuocsid yn yr amgylchfyd.
"Dyw e ddim yn datrys y broblem fawr sydd gyda ni sef datgarboneiddio ynni. Dim ond rhywbeth dros dro allai fod nid rhywbeth i ddatrys y broblem.
"Ni'n ffodus iawn bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn annog pob un yn y sector cyhoeddus i feddwl dros yr hir dymor am y buddsoddiadau maen nhw'n neud er llesiant pobl a'r amgylchedd."
Mae Oil4Wales hefyd yn dweud bod modd defnyddio'r tanwydd fel ffordd o wresogi cartrefi sydd 芒 boeleri olew, gyda rhai addasiadau technegol.聽
Yn 么l Carys Jones, mae'r gost yn sylweddol is na gosod pwmp gwres ffynhonnell aer, sydd yn medru costio rhwng 拢10,000 a 拢20,000 i'w osod mewn t欧.
"Os ydy'r t欧 ar y ceros卯n nawr, mae'r gost yn fach iawn o gymharu 芒 newid i drydan 聽- rhyw fil o bunnau - yn dibynnu ar oedran y boeler.
"Os ydy'r boeler yn hen ni'n argymell newid y boeler. Gyda lot o dai, dim ond newid y burner fydd angen - yr unig wahaniaeth yw pwy mor drwchus yw'r tanwydd."
Yn 么l ystadegau Llywodraeth Cymru, mae tua 10% o gartrefi Cymru yn defnyddio olew gwresogi, sydd yn cyfateb i tua 130,000 o dai, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf.
Fe fydd gwerthiant boeleri olew newydd yn cael ei wahardd yn 2026, gyda nifer o gartrefi'n wynebu'r gost sylweddol o osod cyfarpar trydan newydd i wresogi'r t欧.
Mae'r penderfyniad wedi ei ddisgrifio fel "ULEZ gwledig" gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, George Eustace - cyfeiriad at gynllun dadleuol i wella ansawdd aer Llundain.
Mae'r AS Ben Lake o Blaid Cymru hefyd yn gweld bod y tanwydd yn cynnig cyfle mawr i osgoi costau mawr.
"Mae'r potensial yn sylweddol a fydden ni am weld y llywodraeth yn ysgogi mwy o ddefnydd o ddiesel adnewyddadwy yn hytrach na ar rai achlysuron y pympiau gwres.
"Ni'n gwybod bod y gost o sicrhau fod pwmp gwres yn gweithio yn effeithiol mewn tai gwledig yn gallu bod yn filoedd o bunnoedd.
"Mae modd torri'r allyriadau carbon o tua 80% o gymharu gydag olew cyffredin yn cyflwyno potensial ardderchog i ni, a dylsen ni fod yn cymryd mantais ohoni."
Mae HVO yn cael ei dreialu ym mhentref Kehelland yng Nghernyw, gyda rhyw 20 o gartrefi yn defnyddio'r tanwydd yn lle olew gwresogi.
Mae cwmn茂au tanwydd yn honni ei fod yn lleihau allyriadau carbon hyd at 90% o gymharu 芒 cheros卯n.
Mae Colin Owens, sylfaenydd cwmni tanwydd Cymreig, wedi galw am gwtogi'r doll ar HVO fel tanwydd i wresogi cartrefi er mwyn gwneud e'n fwy cystadleuol.
Sut mae diesel adnewyddadwy yn cymharu o ran pris?
Diesel Gwyn : 124.83 ceiniog y litr (+TAW 20%)
Diesel Adnewyddadwy i gerbydau : 151.23 ceiniog y litr (+TAW 20%)
Ceros卯n : 69.49 ceiniog y litr (+5% TAW o dan 2,300 litr)
Diesel Gwresogi Adnewyddadwy : 118.96 ceiniog y litr (+TAW 20%)
(Ffynhonnell : Oil4Wales 29/8/23)
Asesu'r dystiolaeth
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod nhw'n adolygu trethi yn ymwneud 芒 thanwyddau fel HVO "yn rheolaidd."聽
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhaid "cefnogi datrysiadau cost effeithiol ac adnewyddadwy" er mwyn sicrhau bod Cymru yn Sero Net erbyn 2050.
Maen nhw hefyd yn "parhau i ddilyn ymchwil barhaus" ar HVO sydd yn cynnwys "asesu'r dystiolaeth ar ddatblygiadau posib yn y farchnad, cynaliadwyedd, costau ac effaith biodanwydd ar ddefnyddwyr."
Ystyr Sero Net ydy'r cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon t欧 gwydr a gynhyrchir a'r swm sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer, a'r bwriad wrth gyrraedd sero net yw nad ydym bellach yn ychwanegu allyriadau newydd at yr amgylchedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023