Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Canlyniadau 'dydd y farn'

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth cais Luke Morgan sicrhau pwynt bonws i'r Gweilch

Caerdydd 29-33 Y Gweilch

Fe wnaeth y Gweilch sicrhau eu lle yng ngemau ailgyfle'r Bencampwriaeth Unedig gyda buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd t卯m Toby Booth yn yr unfed safle ar ddeg ar ddechrau'r penwythnos, ond mae canlyniadau Connacht, Caeredin a'r Lions yn golygu eu bod wedi codi i'r wythfed safle.

Fe sgoriodd y ddau d卯m bedwar cais mewn g锚m hynod gyffrous.

Nicky Smith (x2), Justin Tipuric a Luke Morgan wnaeth groesi i'r Gweilch, tra bod Theo Cabango, Mason Grady (x2) a Gabriel Hamer-Webb wedi sgorio i Gaerdydd.

Cic gosb hwyr gan faswr y Gweilch, Dan Edwards oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau d卯m yn y pendraw.

Mae'r golled yn golygu bod Caerdydd yn gorffen y tymor yn y deuddegfed safle.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Dan Davis sgoriodd yr ail gais i'r Scarlets

Scarlets 32 - 15 Dreigiau

Fe orffennodd y Scarlets eu tymor siomedig gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Dreigiau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn y g锚m gyntaf ar 'ddydd y farn' yn y brifddinas, fe sgoriodd yr asgellwr Tomi Lewis ddau gais, tra bod Kemsley Mathias a Dan Davis hefyd wedi sgorio cais yr un i sicrhau'r pwynt bonws.

Fe giciodd maswr Cymru, Sam Costelow 10 pwynt hefyd, wrth i'r Scarlets ennill dwy g锚m yn olynol am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor hwn.

Fe wnaeth Sio Tomkinson sgorio dau gais i'r Dreigiau wrth iddyn nhw geisio brwydro 'n么l yn hwyr yn y g锚m.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn gorffen y tymor yn y trydydd safle ar ddeg, gyda'r Dreigiau yn bymthegfed.