Rhybudd i gerddwyr ar 么l pyliau o banig ar Tryfan

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bu farw dau gerddwr ar fynydd Tryfan ym mis Mai a mis Mehefin

Mae cerddwyr yn Eryri wedi cael eu rhybuddio am ddringo mynydd Tryfan ar 么l i amryw o bobl gael pyliau o banig ar y llethrau yn ddiweddar.

Mae miloedd o bobl yn dringo'r mynydd bob blwyddyn, am ei lethrau serth a鈥檌 olygfeydd syfrdanol.

Ond mae t卯m achub mynydd yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y cerddwyr sy'n amharod i ddringo'r mynydd 918m (3011tr) o uchder.

Daw鈥檙 rhybudd ar 么l i D卯m Achub Mynydd Dyffryn Ogwen gael eu galw i helpu cerddwr i lawr o鈥檙 copa wedi iddyn nhw rewi gan ofn.

Anaddas i bobl amhrofiadol

Dywedon nhw: 鈥淩oedd gr诺p 200m o gopa Tryfan pan gafodd un ohonyn nhw bwl o banig a methu symud.

"Roedd gr诺p bach o aelodau鈥檙 t卯m eisoes yn y ganolfan, felly fe aethon nhw i fyny at y person dan sylw.

鈥淎r 么l tawelu meddwl y person, cafodd y gr诺p i gyd eu helpu i lawr y mynydd."

Ffynhonnell y llun, T卯m Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Disgrifiad o'r llun, Mae sawl cerddwr wedi profi pyliau o banig ar lethrau Tryfan yn ddiweddar, yn 么l T卯m Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Daw'r digwyddiad yn dilyn cyfnod prysur i'r t卯m achub mynydd ar Tryfan.

Fe gafodd y gwasanaeth nifer fawr o alwadau i'r mynydd dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys dwy farwolaeth ar y mynydd ym mis Mai a mis Mehefin.

Ychwanegon nhw: 鈥淢ae鈥檙 t卯m wedi delio 芒 nifer o byliau o banig ar Tryfan yn ddiweddar.

"Os mai dyma鈥檙 tro cyntaf ar y mynydd hwn i chi neu rai o鈥檆h gr诺p, ystyriwch y canlynol:

鈥淢ae Tryfan yn agored iawn gyda llawer o ddringo dros/o amgylch cribau ac ymylon - a fydd hyn yn effeithio鈥檔 ormodol ar unrhyw un ohonoch?

"Ydych chi'n gallu darllen map? Does dim llinell syth i'r maes parcio, peidiwch 芒 chael eich temtio i fynd i lawr rhigolau dim ond oherwydd eich bod yn gallu gweld llawr y dyffryn.

鈥淔e fydd hi鈥檔 tywyllu'n sydyn iawn ar 么l i鈥檙 haul fachlud - os ydych chi鈥檔 tynnu lluniau'r machlud haul, cofiwch gymryd tortshis.鈥

Er ei fod yn un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Eryri, dywedodd y t卯m achub nad yw'r mynydd yn addas i rai amhrofiadol.