Rhybudd melyn am law trwm i Gymru ddydd Llun

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhybudd oren - mwy difrifol - mewn grym ar gyfer mannau dros y ffin yn Lloegr

Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Llun.

Fe ddaeth y rhybudd i rym am hanner nos ac mae'n para nes 23:59 nos Lun.

Yn wreiddiol roedd yn weithredol ar gyfer pob rhan o Gymru oni bai am Ynys M么n a Sir Benfro.

Ond fore Llun cafodd ei gwtogi, ac mae bellach mewn grym ar gyfer pum sir yn y de-ddwyrain yn unig - Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen.

Daw wedi sawl rhybudd am stormydd a glaw trwm ar gyfer Cymru gyfan dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw trwm achosi trafferthion i deithwyr.

Fe all teithiau bws a thr锚n gymryd mwy o amser, tra bod llifogydd ar y ffyrdd hefyd yn bosib.