Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyntoedd cryf Storm Ashley yn taro rhannau o Gymru
Mae yna wyntoedd cryf iawn yn siroedd gogledd orllewin ac ar hyd arfordir y gorllewin wrth i storm fawr gyntaf y tymor newydd daro'r DU.
Fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am wynt sy'n effeithio ar siroedd Gwynedd, Ynys M么n, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion a Sir Benfro yn sgil Storm Ashley.
Fe dddaeth i rym am 03:00 fore Sul ac fe fydd y para tan 23:59 nos Sul.
Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 65 mya yn gyffredinol mewn mannau mewndirol, a hyd at 70 mya mewn mannau arfordirol ble mae llanw mawr yn ffactor ychwanegol.
Roedd yna rybudd melyn ar wah芒n am law trwm ar hyd y de ond fe ddaeth hwnnw i ben am 12:00 dydd Sul.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd, trafferthion i yrwyr a theithwyr, difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.
Mae manylion diweddaraf rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru .