Gweddw Rolf Harris, Alwen Hughes wedi marw yn 92 oed

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Alwen Hughes i'w gweld yn gyson yn ystod achos llys ei g诺r yn 2014

Mae Alwen Hughes, gweddw'r pedoffeil Rolf Harris, wedi marw yn 92 oed.

Roedd Ms Hughes, a gafodd ei geni yn Llundain ond ei magu yng Nghymru, yn gerflunydd a gemydd.

Fe wnaeth hi gwrdd 芒 Rolf Harris - oedd yn artist a diddanwr - tra'n astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia yn ninas Perth, ac fe briododd y ddau ym 1958.

Yn 2014, cafwyd Harris yn euog o 12 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blant - gyda rhai o'r dioddefwyr yn saith ac wyth oed.

Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a naw mis yn y carchar, ac fe gafodd ei ryddhau ar drwydded ym mis Mai 2017.

Fe wnaeth Ms Hughes barhau mewn perthynas 芒 Harris drwy'r cyfnod yma, tan ei farwolaeth yn 93 oed ym mis Mai'r llynedd.