Teyrnged i ferch 'anhygoel' 15 oed a fu farw mewn afon

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Holli Smallman yn Afon Hafren ger Y Trallwng nos Wener

Mae teulu merch yn ei harddegau a fu farw mewn afon ym Mhowys wedi dweud y bydd "bwlch yn ein bywydau na fydd fyth yn gwella" yn dilyn ei marwolaeth.

Roedd Holli Smallman yn 15 oed ac o'r Trallwng.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r dref ddydd Gwener, 9 Awst er mwyn chwilio am berson yn Afon Hafren.

Cafodd ei chorff ei dynnu o'r d诺r tua 20:00 y noson honno.

Dywedodd ei theulu bod "torcalon a galar wedi'n chwalu ni gyd".

'Person anhygoel'

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Roedd Holli yn chwaer, merch ac wyres oedd wedi ei charu gan ei theulu cyfan, ffrindiau a theulu estynedig.

"Roedd Holli yn byw bywyd oedd yn llawn o ganu a dawnsio ac roedd ei natur bositif yn gadael ei 么l ar bawb y gwnaeth eu cyfarfod.

"Roedd yn ddisgybl poblogaidd yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, lle'r oedd yn arbennig o hoff o gelf a bod yn greadigol.

"Cafodd Holli ei chipio oddi wrthym yn llawer rhy ifanc. Mae'n gadael bwlch yn ein bywydau na fydd fyth yn gwella, a wnawn ni fyth anghofio'r person anhygoel yma."

Aeth y teulu ymlaen i ddiolch am yr holl negeseuon o gefnogaeth a charedigrwydd a gawson nhw gan y gymuned gyfan, gan hefyd fynegi eu cefnogaeth nhw i'r cyfeillion oedd gyda Holli pan aeth i'r afon.

Gorffennodd eu neges trwy ofyn am breifatrwydd wrth i'r teulu ymdopi gyda'u colled.