Arestio dyn ar 么l taflu disel ar staff siop a dwyn 拢500

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad 芒 lladrad arfog mewn archfarchnad ble cafodd disel ei daflu dros staff.

Digwyddodd y lladrad yn siop Lidl yn Nowlais, Merthyr Tudful.

Cafodd y dyn 54 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata fore Llun, ac mae yn y ddalfa.

Am tua 17:15 ar 16 Rhagfyr, aeth dyn i mewn i'r siop gyda chynhwysydd tanwydd a'i dywallt dros aelod o staff.

Aeth ymlaen i fynnu arian o'r til, a chymryd tua 拢500.

Cafodd staff eraill ac aelodau o'r cyhoedd eu bygwth, ac fe gafodd disel ei daflu atynt.

Dywedodd yr heddlu bod sawl eitem wedi eu cymryd ar gyfer archwiliadau fforensig.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Tony Watts: "Roedd hyn yn ddigwyddiad hynod o frawychus i staff a siopwyr yn y siop Lidl."

Ychwanegodd y bydd yr ymchwiliad yn parhau a bod Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un 芒 gwybodaeth i gysylltu.