Teyrnged i fachgen 'cariadus' fu farw ger Tregaron

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu bachgen pedair oed fu farw mewn digwyddiad yng Ngheredigion ddydd Iau wedi rhoi teyrnged i fab "cariadus" a "gofalgar".

Bu farw Maldwyn Gwern Evans yn ei gartref yn Tynreithin ger Tregaron.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad eu bod wedi eu "llorio" gan y golled.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi ymateb i "ddigwyddiad mewn eiddo yn ardal Tregaron ar 20 Mehefin", ac nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

'Ffermwr bach hynod awyddus'

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau brynhawn Mawrth, dywedodd y teulu: "Ry'n ni wedi ein llorio yn llwyr gan y golled drasig yma.

"Bydd colled enfawr ar ei 么l - nid yn unig o'n safbwynt ni, ond o safbwynt y gymuned gyfan.

"Roedd yn fab cariadus ac yn frawd gofalgar, a lwyddodd i gyffwrdd calonnau sawl un.

"Fe wnaeth o fyw ei fywyd byr i'r eithaf, a bydd yn cael ei gofio am ei bersonoliaeth hudolus.

"Roedd yn ffermwr bach hynod awyddus oedd 芒 gwybodaeth a gallu y tu hwnt i'w oedran."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod "erchyll" yma, a bod y teulu cyfan yn gwerthfawrogi'r caredigrwydd.

Mae'r teulu hefyd wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw alaru.