Gwahardd tri ffermwr o Sir G芒r rhag cadw anifeiliaid

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae tri ffermwr o Landdowror yn Sir Gaerfyrddin wedi'u gwahardd rhag cadw da byw ar 么l torri cyfreithiau lles anifeiliaid.

Mae Dewi Thomas wedi'i wahardd rhag cadw da byw am bum mlynedd, Eirlys Thomas wedi'i gwahardd rhag cadw anifeiliaid am bum mlynedd a Dyfrig Thomas wedi'i wahardd am ddwy flynedd.

Yn ogystal, mae'r tri o Fferm Cildywyll wedi derbyn gorchmynion cymunedol a gorchymyn i dalu cyfanswm o 拢19,275.10 mewn costau.

Clywodd y llys bod swyddogion iechyd anifeiliaid, milfeddyg a heddwas o Heddlu Dyfed-Powys wedi archwilio Fferm Cildywyll ar 31 Mai 2023 a'u bod wedi canfod "golygfeydd annifyr o esgeulustod".

Roedd c诺n a ch诺n bach, meddent, yn crwydro'n rhydd heb unrhyw reolaeth dros fridio, roedd da byw yn byw ymhlith carcasau, a gwartheg a moch difrifol wael.

C诺n yn bwyta carcasau

Daethon nhw o hyd hefyd i fuwch oedd 芒 llygad chwyddedig heb ei drin ac roedd c诺n yn bwyta carcasau oedd yn pydru - doedden nhw ddim yn cael deiet addas, d诺r na gofal milfeddygol.

O ganlyniad i'r darganfyddiadau cafodd y teulu Thomas orchymyn i fynd i'r afael ag anghenion lles eu hanifeiliaid ar unwaith.

Datgelodd archwiliadau pellach nad oedden nhw wedi cydymffurfio'r 芒'r gofynion a bod rhagor o anifeiliaid wedi'u hesgeuluso.

Roedd yna hefyd anghysondebau yng nghofnodion y fferm o ran marwolaethau a symudiadau da byw.

Rhwng Chwefror a Medi 2023 cofnodwyd marwolaeth 144 o wartheg ar y fferm.

Roedd 32 marwolaeth heb esboniad - a oedd, medd arbenigwyr, yn codi pryderon pellach am reolaeth y da byw.