Disgwyl i'r golwr Karl Darlow fod yng ngharfan Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Karl Darlow ymuno 芒 Leeds o Newcastle yn haf 2023

Mae disgwyl y bydd g么l-geidwad Leeds United, Karl Darlow, yn cael ei gynnwys yng ngharfan gyntaf Craig Bellamy fel rheolwr Cymru.

Mae'r golwr 33 oed wedi bod yn darged i Gymdeithas B锚l-droed Cymru ers peth amser, ond mae wedi gwrthod y cyfle i chwarae i Gymru ddwywaith yn y gorffennol.

Mae disgwyl bellach i'r g诺r o Northampton ymrwymo ei yrfa ryngwladol i Gymru, a chael ei enwi yn y garfan fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher.

Mae Darlow yn gymwys i chwarae i Gymru trwy ei dad-cu Ken Leek, enillodd 15 cap i Gymru yn y 60au.

Mae Darlow, sydd hefyd wedi chwarae i Nottingham Forest a Newcastle United, wedi gwrthod y cynnig i gynrychioli Cymru ddwywaith yn y gorffennol - yn 2013 a 2018.

Ond byddai gallu galw ar golwr profiadol yn hwb mawr i'r garfan er mwyn rhoi cystadleuaeth i Danny Ward, sydd ddim yn chwarae yn y gynghrair i'w glwb Caerl欧r.

Ond dyw Darlow ddim yn ddewis cyntaf i Leeds chwaith, gydag Illan Meslier yn cael ei ffafrio.

Mae golwr arall, Wayne Hennesey yn gwella o anaf hir dymor, a does ganddo ddim clwb ar y funud.

Bydd Cymru'n herio Twrci yng Nghaerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, 6 Medi, cyn i'r garfan deithio i Montenegro ar gyfer g锚m oddi cartref y nos Lun ganlynol.