大象传媒

'Annheg' na fydd cefnogwyr Caernarfon yn Warsaw

Caernarfon TownFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Oherwydd sancsiynau yn erbyn Legia Warsaw, ni fydd cefnogwyr Caernarfon yn cael gwylio'r g锚m yn y stadiwm 'chwaith

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caernarfon yn credu bod hi鈥檔 annheg na fydd eu cefnogwyr yn cael bod yn bresennol i wylio鈥檙 g锚m oddi cartref yn erbyn Legia Warsaw yng Nghyngres Uefa.

Ar 么l trechu Crusaders o Ogledd Iwerddon yn y rownd gyntaf, bydd Y Canaries yn chwarae Legia yng nghymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol ym mhrifddinas Gwlad Pwyl ddydd Iau.

Ond fe fydd y g锚m yn cael ei chwarae tu 么l i ddrysau caeedig ar 么l i Legia gael eu sancsiynu gan Uefa am i鈥檞 cefnogwr arddangos baner 鈥渂rofoclyd鈥 gyda 鈥渘atur sarhaus鈥 mewn g锚m yn erbyn Molde fis Chwefror.

Ni fydd cefnogwr Legia yn cael mynychu鈥檙 ail gymal yng Nghymru chwaith, ar 么l cael eu gwahardd o bum gem oddi cartref mewn cystadlaethau Ewrop yn dilyn gwrthdaro cyn g锚m yn erbyn Aston Villa fis Tachwedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheolwr Richard Davies yn dweud bod atgofion o'r cefnogwyr yn Belfast yn rhywbeth y bydd yn "trysori am byth"

"Dyna鈥檙 peth mwyaf siomedig i bawb yn y clwb,鈥 meddai'r rheolwr Richard Davies wrth 大象传媒 Cymru.

鈥淕afo' ni brofiad mor wych allan yn Belfast ac roedd y cefnogwyr yn rhyfeddol.

鈥淩oedd y golygfeydd ar y diwedd yn rhywbeth 'nawn ni drysori am byth.

鈥淒wi鈥檔 meddwl ei bod hi'n annheg bod y cefnogwyr oddi cartref yn cael eu cosbi am rywbeth y mae rhywun arall wedi鈥檌 wneud.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Caernarfon drechu Crusaders o Ogledd Iwerddon yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Uefa

Cafodd Caernarfon gefnogaeth 400 o gefnogwyr ar gyfer y daith rownd ragbrofol gyntaf i Ogledd Iwerddon i wynebu Crusaders.

Dyna oedd taith Ewropeaidd gyntaf Caernarfon, a bellach mae鈥檙 clwb o ogledd Cymru yn wynebu prawf anferth yn erbyn clwb sydd wedi bod yn bencampwyr prif gynghrair Gwlad Pwyl 15 o weithiau.

鈥溾橠a ni'n gwybod bod 'na dasg enfawr o鈥檔 blaenau ni,鈥 meddai Davies.

Ffynhonnell y llun, CBDC/SAM EADEN
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni fydd y t卯m yn cael amser i ymarfer cyn y g锚m nos Iau

Carfan lled-broffesiynol sydd gan Gaernarfon, ac yn 么l Davies, chawn nhw ddim amser i hyfforddi cyn y cymal cyntaf ddydd Iau.

鈥淎r 么l cael m芒n anafiadau, mae angen amser ar yr hogiau i wella felly bydd y rhan fwyaf o'n paratoadau yn cael eu gwneud drwy gyflwyniadau a dadansoddiadau a dangos clipiau i'r chwaraewyr,鈥 ychwanegodd Davies.

鈥淕an ein bod ni'n rhan-amser, does ganddyn ni ddim ice baths a phethau felly.

鈥淢ae hynny'n her ynddo鈥檌 hun, ond mae鈥檔 rhaid i ni geisio gwneud y gorau y gallwn a mynd gyda hynny.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y Canaries yn chwarae mewn stadiwm gwag yng Ngwlad Pwyl nos Iau

Cafodd paratoadau Caernarfon ar gyfer y cymal cyntaf yng Ngwlad Pwyl eu cymhlethu ymhellach gan y problemau technoleg fyd-eang ddydd Gwener.

鈥淢ae wedi bod yn dipyn o hunllef i fod yn onest,鈥 meddai Davies.

鈥淐hafon ni ddim cadarnhad tan ddiwedd prynhawn dydd Gwener os oedden ni'n mynd i fod yn chwarae dydd Iau neu ddydd Mercher, a daeth y problemau technoleg ddydd Gwener felly doedd hi ddim yn bosib bwcio fel gr诺p dros y penwythnos.

鈥淥 ran logistics, mae wedi bod yn dipyn o hunllef, ond gobeithio bo' ni wedi sortio rhywbeth."